Prosiect i ddathlu 'calon ac enaid' cerddorol Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Bydd hanes cerddorol bywiog dinas Casnewydd yn cael ei gyflwyno o'r newydd dan law prosiect Casgliadau Roc Casnewydd.
Ar un adeg, roedd clybiau nos y ddinas yn cynnig llwyfan i fandiau byd-enwog a Chymreig, gan gynnwys David Bowie, The Sex Pistols a Catatonia.
Y bwriad yw cofnodi hanes diwylliannol Casnewydd ac annog pobl ifanc i "ail-greu cyffro" y cyfnod cynt.
Mae'r prosiect wedi derbyn £58,400 o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gynnal arddangosfa yn Amgueddfa Casnewydd a chyfres o weithdai i bobl ifanc.
Y 'Seattle Newydd'
Ers yr 1970au, roedd bandiau a chantorion yn heidio i Gasnewydd i chwarae, gyda David Bowie, Van Morrison a'r Sex Pistols yn eu plith.
Erbyn yr 1990au, cafodd Casnewydd ei galw'n "Seattle newydd" gan gylchgrawn yr NME, a thyfodd enw da TJs, clwb nos annibynnol, fel lle delfrydol i chwarae.
Yno cafodd fideo i gân "Mulder and Scully" Catatonia ei ffilmio a'i chyfarwyddo gan Kevin Allen, ac yn ôl y chwedl, yn TJs ofynnodd canwr Nirvana, Kurt Cobain, i Courtney Love ei briodi, yn dilyn un o gigiau ei band hithau, Hole.
Yn ogystal â denu bandiau enwog, daeth 60ft Dolls, The Lash a Novocaine i fod dan ddylanwad sîn fywiog y ddinas.
Roedd gan Gasnewydd dros 40 o glybiau annibynnol ar un adeg, ond bellach mae pryder mai dim ond llond llaw sydd ar ôl.
Calon ac enaid Casnewydd
Ynghyd â dathlu'r hanes cerddorol gydag arddangosfa arbennig, mae Winding Snake Productions yn bwriadu annog merched a menywod lleol i ymuno yn y prosiect.
Maen nhw'n gobeithio mynd i'r afael â'r prinder o ferched sy'n rhan o'r diwydiant cynhyrchu cerddoriaeth heddiw drwy gydweithio gydag elusennau i gynnwys 200 o ferched lleol rhwng 15 a 25 oed i gymryd rhan mewn gweithdai ac yn y gwaith o guradu'r arddangosfa.
Yn ôl Amy Morris, sy'n arwain y prosiect ar ran Winding Snake Productions, nid yw pobl ifanc yn ddinas yn "sylweddoli pa mor bwysig arferai cerddoriaeth fod i Gasnewydd".
Dywedodd: "Mae rhoi atgofion pobl o sîn roc ac amgen Casnewydd ar gof a chadw'n hynod gyffrous - ac mae gwneud hynny mewn cyfnod pan mae'r ddinas yn newid a phethau'n cael eu hanghofio'n hanfodol.
"Gyda help pobl leol, rydyn ni eisiau sicrhau bod calon ac enaid Casnewydd - ei cherddoriaeth - yn fyw o hyd yng nghof pobl."
Ail-greu'r cyffro
Dywedodd Deian Creunant o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol bod "dau bwrpas" i'r prosiect.
"I roi'r hanes ar gof a chadw fel ein bod ni'n cofio'r dylanwad gafodd Casnewydd," meddai.
"Ond mae'r nod hefyd o edrych ymlaen drwy gofnodi hyn, y nod yw ei fod yn hybu pobl y ddinas a'r cyffiniau, pobl ifanc, i ail-greu'r cyffro hynny, i ail-greu'r creadigrwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2016
- Cyhoeddwyd14 Awst 2016