Gostyngiad o 72% yn nifer y plant sy'n cael eu harestio

  • Cyhoeddwyd
Teenager under arrestFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gostyngiad mwyaf yn ardal heddlu Dyfed-Powys

Mae nifer y plant sy'n cael eu harestio wedi gostwng bron i 10,000 yng Nghymru rhwng 2010 a 2017.

Mae ffigyrau'r elusen Howard League for Penal Reform yn dangos bod 13,889 o blant wedi cael eu harestio yn 2010 a bod y nifer wedi gostwng i 3,948 y llynedd - gostyngiad o 72%.

Roedd y gostyngiad mwyaf, 85% (2,307 i 341) yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Yn rhanbarth y gogledd a Gwent roedd y gostyngiad yn 70% ac yn ardal Heddlu'r De roedd y gostyngiad yn 68%.

Mae'r elusen yn dweud fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i gadw plant rhag bod yn rhan o'r system droseddu.

Mae rhaglen yr elusen, sy'n gweithredu ers 2010, yn cynnwys gweithio gyda'r heddlu i atal plant rhag troseddu - yn enwedig plant mewn gofal, yn cael eu hecsbloetio gan gangiau, neu o gefndir ethnig lleiafrifol.

'Dyfodol gwell'

Mae ymchwil yn dangos fod plentyn yn fwy tebygol o droseddu eto po fwyaf y mae'n dod i gysylltiad â'r system'r gyfiawnder.

Roedd yna ostyngiad o dros 60% yn nifer y plant a gafodd eu carcharu yng Nghymru a Lloegr rhwng 2010 a 2017.

Dywedodd Frances Crook, prif weithredwr Howard League for Penal Reform: "Mae hyn yn gryn gamp i'r heddlu a Howard League ac mae'n golygu y bydd gan gannoedd o blant ddyfodol gwell heb gofnod troseddol neu bod â chysylltiad â'r heddlu.

"Ry'n wedi gwneud camau breision ymlaen ond mae mwy o waith eto i'w wneud."