Milwyr y Bannau: 'Hyder' gan feddyg yng ngallu swyddog
- Cyhoeddwyd
Mae llys milwrol wedi clywed nad oedd dau feddyg profiadol wedi codi unrhyw bryderon ynglŷn â chynlluniau ymarferiad SAS ble bu farw tri milwr.
Mae'r ddau ddyn oedd yn gyfrifol am oruchwylio'r ymarferiad ym Mannau Brycheiniog wedi'u cyhuddo o berfformio'u dyletswyddau'n esgeulus.
Bu farw'r Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Craig Roberts a'r Is-gorporal Edward Maher yn ystod yr ymarferiad yn 2013, ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.
Mae milwr 1A, sydd dal yn swyddog yn y fyddin, a milwr 1B, sydd bellach wedi gadael, yn gwadu esgeulustod yn eu gwaith.
Cynllun meddygol
Roedd yr ymarferiad yn rhan o gwrs hyfforddiant ac fe fyddai ymgeiswyr oedd yn rhoi'r gorau iddi, boed am resymau meddygol ai peidio, ddim yn cael cymryd rhan bellach yn y broses o ddewis aelodau i ymuno â'r SAS.
Clywodd y llys mai 1A ac 1B oedd yn gyfrifol am yr asesiadau risg ar y dydd, a bod ganddyn nhw'r awdurdod i atal yr ymarferiad ond nid i newid ei drywydd.
Pan ofynnwyd i un meddyg, 1H, a oedd wedi bod yn bryderus ar unrhyw adeg, dywedodd: "Roedd pawb yn gwybod y byddai'n boeth, ond dyna i gyd."
Ychwanegodd 1H nad oedd yn gallu cofio a oedd yr un o'r ddau swyddog wedi "gweld" y cynllun meddygol ar gyfer y diwrnod, ond fod un wedi'i baratoi ac ar gael iddyn nhw.
Dywedodd meddyg arall, 1N, fod yr ymateb meddygol brys wedi cael ei "ystyried yn ofalus" fel rhan o gynllun 1B.
Ychwanegodd ei fod yn "hyderus" yng ngallu 1B yn dilyn digwyddiad mewn ymarferiad blaenorol ble bu'n rhaid achub rhywun mewn trafferth.
Clywodd y llys fod y fyddin yn defnyddio system o'r enw WBGT i fesur effaith amodau tywydd ar yr ymarferion, a'i fod yn ffordd o rybuddio os oedd risg o broblem.
Ar ran yr amddiffyniad dywedodd Mathew Sherratt QC fod y meddygon yn trafod y mesurau WBGT gyda'i gilydd ond nad oedd y wybodaeth wedi ei basio i 1A ac 1B.
Mewn ymateb dywedodd 1H y byddai hynny wedi cael ei gyfleu "petai unrhyw broblem".
Mae milwr 1Ac a milwr 1 B yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2017