Marwolaethau milwyr y Bannau: Dau'n gwadu esgeulustod
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi ymddangos o flaen llys milwrol wedi eu cyhuddo o esgeulustod mewn perthynas â marwolaethau tri milwr yn ystod ymarferiadau'r SAS ar Fannau Brycheiniog.
Bu farw'r Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Craig Roberts a'r Is-gorporal Edward Maher yn ystod yr ymarferiad yn 2013, ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.
Mae'r barnwr yng Nghanolfan Llysoedd Milwrol Colchester wedi penderfynu y dylai'r diffynyddion aros yn anhysbys trwy'r achos.
Mae milwr 1A a milwr 1B yn gwadu esgeulustod yn eu gwaith ac mae disgwyl i'r achos bara dwy i dair wythnos.
Milwr 1A - swyddog â chomisiwn, a chapten adeg y marwolaethau - oedd yn rheoli'r hyfforddiant yng Ngorffennaf 2013.
Roedd milwr 1B, sydd bellach wedi gadael y fyddin, yn ddirprwy iddo.
Gorboethi
Roedd yr hyfforddiant dan eu gwyliadwriaeth yn cynnwys gorymdaith 26 cilomedr ar dirwedd anodd tra'n cario pwysau o 27 cilogram ar eu cefnau.
Roedd yn rhaid cwblhau'r cwrs hyfforddiant o fewn wyth awr a 45 munud.
Doedd ymgeiswyr oedd yn rhoi'r gorau iddi, boed am resymau meddygol ai peidio, ddim yn cael cymryd rhan pellach yn y broses o ddewis aelodau i ymuno â'r SAS.
Clywodd y llys mai milwr 1A ac 1B oedd yn gyfrifol am asesiadau risg, ac am reoli staff.
Dywedodd Louis Malby QC ar ran yr erlyniad bod y diffynyddion yn cael eu cyhuddo o fod "yn esgeulus yn eu dyletswyddau i gynllunio a gweithredu'r ymarferiad yn ddiogel gan ystyried y risg amlwg - salwch drwy orboethi."
Clywodd y gwrandawiad fod yr ymarferiadau wedi eu cynnal ar ddiwrnod hynod o boeth, a bod dau filwr wedi marw ar y cwrs hyfforddi a bod y llall wedi marw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Mae'r erlyniad hefyd yn dweud i nifer o filwyr eraill gael eu taro'n sâl.
"Wrth reswm mae'r math yma o ymarfer yn hyfforddiant caled a does dim modd cael gwared â'r risg yn gyfan gwbl...ond roedd angen paratoi a chynllunio ar ei gyfer," dywedodd Mr Malby.
"Dyw'r risg o salwch drwy orboethi ddim yn rhywbeth y gwnaeth y diffynyddion baratoi yn ddigonol ar ei gyfer."
Mae milwr 1Ac a milwr 1 B yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2017