Datgelu cynlluniau am ffordd newydd yn ngorllewin Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Gyngor Sir Penfro ddatgelu'r llwybr mae'n ei ffafrio ar gyfer ffordd newydd yn ardal Niwgwl sy'n cysylltu Hwlffordd a Phenrhyn Dewi.
Bydd y ffordd newydd yn disodli'r ffordd bresennol ar hyd yr arfordir yn wyneb pryderon na fydd yr A487 yn ddiogel yn y dyfodol wrth i lefel y môr godi ac effaith cynhesu byd eang.
Dywed y sir y byddant yn cyhoeddi eu cynlluniau mewn arddangosfa gyhoeddus ddydd Mawrth nesa yn ym mhentre'r Garn.
Dechreuodd y sir ymchwilio i'r posibilrwydd o ffordd newydd yn dilyn tywydd garw 2014, wedi i'r A487 yn ardal Niwgwl, gael ei chau oherwydd llifogydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y sir: "Fe wnaeth y gwaith cynllunio ystyried barn y cyhoedd yn dilyn nifer o gyfarfodydd cyhoeddus, ac rydym nawr am gyflwyno'r llwybr sy'n cael ei ffafrio."
Cafodd nifer o opsiynau eu hystyried, gan gynnwys codi traphont, a thri llwybr gwahanol ychydig bellter o'r arfordir.
Pe bai'r sir yn penderfynu bwrw 'mlaen byddai angen ymchwiliad cyhoeddus gan fod yr ardal o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2014