Glanhau wedi difrod y tywydd

  • Cyhoeddwyd
Y gwaith o lanhau ar arfordir Niwgwl, Sir BenfroFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Y bws yn Niwgwl, Sir Benfro

Mae cynghorau ar hyd yr arfordir wedi dechrau glanhau wedi'r difrod gafodd ei achosi gan y gwyntoedd cryf a'r llanw uchel dros y penwythnos.

Dim ond "ychydig o ddifrod" oedd yn Aberystwyth, yn ôl Cyngor Ceredigion, er gwaetha maint y tonnau.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod mwy o dywydd garw ar y ffordd, gyda rhybuddion melyn am law ar gyfer de Cymru yn ystod y dydd.

Yn ogystal, mae disgwyl gwyntoedd o hyd at 70 milltir yr awr nos Fawrth.

Mae manylion y rhybuddion llifogydd ar y wefan hon., dolen allanol

Tonnau

Nos Sadwrn cafodd 10 eu hachub ar ôl i donna daro bws yn Niwgwl, Sir Benfro.

Roedd y ddamwain toc wedi 7yh pan adawodd y bws yr A487 ar ôl iddo gael ei daro gan donnau.

Bu'n rhaid cael cymorth Gwasanaeth Tân Ac Achub y Gorllewin a'r Canolbarth i hebrwng y teithwyr a'r gyrrwr oddi ar y bws, ac ni chafodd unrhyw un anaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir fod y ffordd ar fin cael ei chau cyn y ddamwain.

"Roedd swyddogion y cyngor eisoes yn rhoi cyfarwyddyd i yrwyr ddefnyddio ffyrdd eraill, gan osgoi'r ffordd drwy Niwgwl," meddai.

"Fe roddwyd gwybod i yrrwr y bws am y sefyllfa, ac y dylid defnyddio ffordd arall."

Dywedodd y cyngor fod y gyrrwr wedi penderfynu parhau â'i siwrne.

"Fe wnaeth swyddog o'r cyngor ddilyn y bws mewn cerbyd gyda goleuadau oren yn fflachio. Fe wnaeth hefyd geisio defnyddio'i oleuadau i stopio'r bws ond yn aflwyddiannus. "

Dywedodd y cyngor fod aelod o'r cyhoedd wedi ceisio defnyddio tortsh mewn ymdrech i stopio'r bws ond roedd yn aflwyddiannus.

Gofal

Yn ôl gyrrwr y bws, John Ashman, roedd swyddogion y cyngor yn y broses o gau'r ffordd ond wedi dweud wrtho fod modd gyrru ar ei hyd gyda gofal.

Dywedodd na welodd unrhyw un yn ei ddilyn na chwaith yn ceisio ei rybuddio i stopio.

Yn ôl Jemma Davies, oedd yn teithio ar y bws, fe stopiodd y gyrrwr yn Niwgwl a mynd i siarad gyda gweithwyr y cyngor.

Dywedodd hi: "Wnes i ddim clywed y sgwrs ond fe ddaeth y gyrrwr yn ôl ar y bws a dweud wrth y teithwyr bod y gweithwyr yn dweud ei bod hi'n bosib parhau ar y ffordd gyda gofal, felly fe yrrodd ymlaen. Doedd dim arwyddion ar y ffordd.

"Roedden ni ar y bont ( ychydig cyn i'r tonnau daro'r bws) pan weles i gerbyd y cyngor, gyda'i olau oren yn fflachio, yn dod i lawr y tyle. Roedd rhaid eu bod yn dod i lawr i edrych ar yr amodau. Doedden nhw'n sicr ddim yn ein dilyn ni'n uniongyrchol, doedden nhw ddim eisoes y tu ôl i ni. "

Mae Jemma Davies yn dweud bod "y cyngor yn ceisio pwyntio bys at y gyrrwr pan ddylen nhw fod yn pwyntio bys atyn nhw'u hunain. Fe ddylen nhw fod wedi cau'r ffordd hanner awr ynghynt. "

Amddiffynfeydd

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud eu bod yn fodlon ar y gwaith o atgyfnerthu'r amddiffynfeydd yn Aberystwyth.

"Mae'r amddiffynfeydd wedi sicrhau fod maint y difrod cyn lleied ac y gallai fod," meddai Alun Williams, aelod o gabinet y cyngor.

Disgrifiad o’r llun,

Y môr wedi gwasgaru cerrig mân yn Aberystwyth.

Bu'n rhaid i tua 600 o fyfyrwyr sy'n byw ar y promenâd, adael eu llety dros y penwythnos.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth: "Roedd yna ychydig o fân ddifrod i adeiladau, ond doedd yna ddim difrod uniongyrchol i ystafelloedd y myfyrwyr.

Wagen ar ei hochr

Roedd y gwyntoedd cryfion wedi achosi difrod yn ardal Porthmadog hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y wagen ei chwythu drosodd gan y gwyntoedd cryfion nos Sul.

Fe gafodd trên gweithiol Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru ei chwythu drosodd ar y Cob ym Mhorthmadog nos Sul.

Galwyd Heddlu Gogledd Cymru i'r safle ond doedd y trên ddim yn achosi unrhyw berygl i deithwyr ar y hyd y ffordd.

Mae'r wagen yn cael ei symud ddydd Llun.