'Rhaid i achwynwyr aros yn ddienw', medd Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud y bod yn rhaid i'r menywod a wnaeth honiadau yn erbyn y cyn-weinidog Carl Sargeant aros yn ddienw.
Fe wnaeth Mr Jones y sylw mewn datganiad yn dilyn oedi i'r ymchwiliad annibynnol sy'n cael ei gynnal i'r modd y gwnaeth ef ddiswyddo Mr Sargeant o'r cabinet fis Tachwedd diwethaf.
Ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo, cafwyd hyd i AC Alun a Glannau Dyfrdwy yn farw yn ei gartref.
Yn gynharach y mis hwn, cafodd yr ymchwiliad annibynnol ei ohirio yn dilyn her gyfreithiol gan deulu Mr Sargeant.
Maen nhw'n ceisio adolygiad barnwrol ac yn mynnu bod eu cyfreithwyr yn cael yr hawl i groesholi'r rhai sy'n rhoi tystiolaeth.
Yn y datganiad, dywedodd Mr Jones y byddai Llywodraeth Cymru yn "herio yn gryf sail y cais am adolygiad".
Ychwanegodd fod sefydlu'r ymchwiliad, dan arweinyddiaeth Paul Bowen QC, wedi bod yn gymhleth a bod nifer o ffactorau wedi eu hystyried, ac ymhlith y rhain y "sicrwydd pendant fod cyfrinachedd achwynwyr yn cael ei ddiogelu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2018
- Cyhoeddwyd5 Medi 2018
- Cyhoeddwyd21 Awst 2018
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2017