Mwy o ferched yn dod ymlaen i gyhuddo Carl Sargeant
- Cyhoeddwyd
Mae gwrandawiad cyn y cwest i farwolaeth Carl Sargeant wedi clywed fod cyhuddiadau pellach wedi cael eu gwneud gan ferched yn ei erbyn.
Yn ôl bargyfreithiwr sy'n cynrychioli Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae mwy o ferched wedi dweud eu bod wedi dioddef "ymddygiad annerbyniol" gan Carl Sargeant.
Yn ystod y gwrandawiad dywedodd Cathryn McGahey QC fod "nifer o ferched wedi camu ymlaen neu wedi'u hadnabod gan ddweud eu bod wedi dioddef ymddygiad annerbyniol gan Mr Sargeant".
Cafodd corff yr AC dros Alun a Glannau Dyfrdwy ei ddarganfod yn ei gartref yng Nghei Connah, Sir y Fflint yn Tachwedd 2017.
Ffrindiau
Bedwar diwrnod cyn hynny fe gafodd ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru wrth i honiadau o "gyffwrdd anaddas ac ymddwyn yn amhriodol tuag at ferched" ddod i'r amlwg.
Clywodd y gwrandawiad ei bod yn anochel bod y prif weinidog Carwyn Jones yn ymwybodol o amgylchiadau personol Mr Sargeant ar y pryd.
Mae cwest blaenorol eisoes wedi dweud mai crogi oedd achos ei farwolaeth.
Yn y gwrandawiad yn Llys y Crwner yn Rhuthun ddydd Gwener, dywedwyd nad oedd y prif weinidog yn credu bod y cyn Ysgrifennydd Cymunedau yn diodde' o afiechyd meddwl pan gafodd ei ddiswyddo o'r cabinet.
Nid oedd Carwyn Jones yn bresennol, ond roedd ganddo gynrychiolaeth gyfreithiol yn y gwrandawiad gan ei fod yn cael ei drin fel person o ddiddordeb.
Dadleuon
Dywedodd y cyfreithiwr sy'n cynrychioli teulu Mr Sargeant wrth y gwrandawiad ei bod yn anochel bod Mr Jones yn llwyr ymwybodol o amgylchiadau personol Mr Sargeant gan fod y ddau wedi bod yn ffrindiau am 16 mlynedd.
Mae crwner gogledd ddwyrain Cymru, John Gittins, wedi bod yn clywed dadleuon ynglŷn ag a ddylai cylch gorchwyl y cwest gael ei ehangu er mwyn ymchwilio i'r amgylchiadau ehangach ynghylch marwolaeth Mr Sargeant.
Cyn i'r gwrandawiad orffen ddydd Gwener, daeth cadarnhad hefyd y bydd Carwyn Jones yn cael ei alw fel tyst pan fydd y cwest llawn yn digwydd ar ddyddiad i'w bennu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018