Gweddw Sargeant yn pryderu am ymchwiliad i'w farwolaeth
- Cyhoeddwyd

Mae gwraig Carl Sargeant, Bernie Sargeant, wedi dweud ei bod wedi'i gorfodi i fynd i'r Uchel Lys i geisio herio cyfreithlondeb yr ymchwiliad
Mae gweddw Carl Sargeant wedi dweud ei bod hi'n pryderu na fydd ymchwiliad yn datgelu'r gwir yn sgil diswyddiad y cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru.
Roedd Bernie Sargeant yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers marwolaeth ei gŵr ym mis Tachwedd 2017.
Dywedodd Mrs Sargeant ei bod wedi'i gorfodi i fynd i'r Uchel Lys i geisio herio cyfreithlondeb yr ymchwiliad.
Mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi dweud fod teulu Mr Sargeant wedi bod yn rhan o'r broses o sefydlu ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan fargyfreithiwr "ers y dechrau".
'Siomedig'
Roedd Mr Sargeant yn wynebu cyhuddiadau o ymddygiad anaddas tuag at fenywod.
Mae cyfreithwyr ar ran Mrs Sargeant wedi gwneud cais i'r Uchel Lys yn Llundain yn herio sut fyddai'r ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Bu farw Carl Sargeant ym mis Tachwedd 2017
Dywedodd Mrs Sargeant ei bod eisiau herio rheolau'r ymchwiliad, sydd ar hyn o bryd yn gwahardd cyfreithwyr ar ran y teulu i holi tystion.
Yn ôl Mrs Sargeant, mae gan Paul Bowen QC hefyd y rym i wahardd y teulu rhag mynychu gwrandawiadau ac i atal tystiolaeth rhag cael ei ddatgelu'n gyhoeddus, ond ni fyddai'n gallu gorchymyn tystion i roi tystiolaeth.
"Rwyf mor siomedig fy mod wedi fy ngorfodi i gymryd y camau yma. Roeddwn yn credu, yn dilyn marwolaeth Carl, y buaswn i a fy nheulu ifanc yn cael ein trin gyda pharch a gonestrwydd," meddai.
"Ond rydym yn teimlo ein bod yn edrych ar ymchwiliad fyddai'n ddim yn datgelu'r gwir."

Paul Bowen QC fydd yn arwain yr ymchwiliad
Ychwanegodd: "Mae gennym yr hawl i glywed a herio'r dystiolaeth. Credwch fi, dydyn ni ddim yn ceisio bod yn rhwystrol, y cyfan rydym eisiau yw'r gwir ac rydym yn teimlo fod gennym gymaint i gynnig i'r ymchwiliad.
"Dydyn ni ddim eisiau cael ein gwahardd.
"Mae naw mis wedi pasio ers marwolaeth Carl a dydyn ni ddim nes at gael atebion.
"Y cyfan dwi eisiau yw deall y broses a pham nad yw fy ngŵr yma bellach. Mae'r cyfan yn ychwanegu at y boen, ond mae gennyf ddyletswydd tuag at Carl i gael y darlun yn llawn."
'Annibyniaeth yn sicr'
Dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones: "Dyw'r ymchwiliad yma ddim ac erioed wedi cael ei sefydlu i fod yn ymchwiliad cyhoeddus.
"Dydy o chwaith ddim yn ymchwiliad i farwolaeth drasig Carl Sargaeant. Mater i'r cwest yw hwnnw sydd i fod i ddigwydd yn y gwanwyn.
"Fe wnaeth y Prif Weinidog alw am ymchwiliad o'i wirfodd, yn benodol i roi craffu annibynnol ar y camau a'r penderfyniadau a gymrodd yn ymwneud â Carl Sargeant yn ystod ail drefnu'r cabinet ym mis Tachwedd.
"Mae annibyniaeth yn sicr gyda phenodi bargyfreithiwr fydd yn cael mynediad i'r holl dystiolaeth a fydd hefyd yn cael y cyfle i groesholi'r Prif Weinidog a thystion eraill.

Mae llefarydd ar ran Carwyn Jones wedi dweud fod teulu Mr Sargeant wedi bod yn rhan o'r broses o sefydlu ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan fargyfreithiwr "ers y dechrau"
"Mae'r broses hefyd wedi'i drefnu i warchod cyfrinachedd y merched sydd wedi cwyno ynglŷn ag ymddygiad Carl Sargeant pan oedd yn weinidog yn Llywodraeth Cymru.
"Fe wnaeth y menywod gwyno yn gyfrinachol ac mae ganddyn nhw'r hawl gyfreithiol i aros yn ddienw.
"Mae'r teulu wedi bod yn rhan o'r broses ers y dechrau ac fe gytunon nhw gyda phenodiad bargyfreithiwr sy'n arwain yr ymchwiliad annibynnol.
"Mae natur yr ymchwiliad wedi bod yn glir ers mis Ionawr pan rannwyd drafft o drefniadau gweithredol ar gyfer yr ymchwiliad gydag Aelodau Cynulliad.
"Byddai herio nodweddion penodol o'r protocol ar hyn o bryd yn anghyson i'r hyn sydd eisoes wedi'i sefydlu.
"Rydym yn credu, ac wedi dweud yn gyson, nad oes modd cyfiawnhau'r weithred arfaethedig yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2017