Sefydlu academi hedfan dronau yn Llanbedr, Gwynedd
- Cyhoeddwyd

Bydd academi dronau cyntaf o'i fath yng Ngwynedd yn cael ei sefydlu Nghanolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr ger Harlech.
Pwrpas yr academi yw rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed ddysgu sut i ddefnyddio dronau.
Gyda rheolau llym mewn grym ynglŷn â hedfan dronau, mae Canolfan Awyrofod Eryri yn un o ddim ond dau leoliad yn y DU sy'n caniatáu i ddronau hedfan gyda llai o reoliadau o fewn radiws o 10km o'r maes awyr.
Yn ôl Rheolwr Arloesi Gwynedd Wledig, Zoe Pritchard: "Bydd y bobl ifanc yn dysgu sut i ddefnyddio dronau yn ddiogel mewn amgylchedd rheoledig."

Bydd y cyrsiau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr ger Harlech
Mae'r Academi yn cael ei ariannu gan Arloesi Gwynedd Wledig a Chyngor Gwynedd, ac mi fydd yn rhedeg bob dydd Sadwrn rhwng y 15 Medi a 20 Hydref 2018.
Does dim cost i ymuno wrth i'r trefnwyr annog gwaith tîm, meddwl yn feirniadol, a chreadigrwydd ymysg y bobl ifanc.
Ychwanegodd Ms Pritchard: "Bydd siaradwyr gwadd yn ymweld o nifer o wahanol feysydd fel y Tîm Achub Mynydd, amaethyddiaeth, Heddlu Gogledd Cymru a ffotograffiaeth.
"Bydd yn helpu i amlygu'r nifer fawr o gyfleoedd swyddi newydd sydd wedi ymddangos drwy'r datblygiadau mewn technoleg drôn," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2018