Marwolaeth bachgen 14: Pryderon tad am fwlio

  • Cyhoeddwyd
Byron John

Mae tad i fachgen ysgol 14 oed o Sir Gaerfyrddin, sy'n ymddangos wnaeth ladd ei hun, wedi siarad am effaith bwlio ar ei fab.

Daeth yr awdurdodau o hyd i Bradley John yn Ysgol Gatholig St John Lloyd yn Llanelli, ddydd Mercher.

Dywedodd ei dad, Byron, mai chwaer iau Bradley wnaeth ei ddarganfod yn nhai bach yr ysgol.

Dywedodd Mr John, o Rydaman, fod ei fab â chyflwr ADHD - anhwylder ymddygiad sy'n cael ei nodweddu gan ddiffyg talu sylw - a bod hyn yn ei wneud yn berson bregus o ran y modd roedd yn ymateb i fwlio.

Yn ôl Mr John, fe ddylai'r awdurdodau wneud disgyblion yn ymwybodol o gyflwr sensitif plant gyda gofynion dysgu ychwanegol.

Dywedodd: "Plîs ceisiwch fod yn sympathetig, fe allwn ei brifo nhw mor, mor hawdd. Yn gorfforol ac yn emosiynol maen nhw'n fregus."

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bradley John yn farchogwr brwd

Roedd hefyd am estyn cyngor i blant eraill sy'n dioddef gan ddweud: "Os ydych yn ddioddefwr, edrychwch ar y llun mawr.

"Peidiwch â phenderfynu ar yr opsiwn cyflym. Siaradwch gyda'ch rheini - siaradwch â ffrind.

"Rhannwch e, plîs wnewch chi rannu e. Peidiwch â thrio delio gyda'r peth, fel y gwnaeth Bradley."

Bachgen 'dawnus'

Mae Ysgol St John Lloyd dan ofal yr Eglwys Gatholig a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Mewn llythyr a anfonodd prifathro'r ysgol, Ashley Howells, at rieni, gwarchodwyr a disgyblion yr ysgol, dywedodd bod Bradley yn "aelod adnabyddus o gymuned yr ysgol" a'i fod yn "ddyn ifanc cwrtais a chymwynasgar".

"Arferai siarad yn aml am ei hoffter o'r awyr agored, ei geffylau a'i hoffter o bob dim mecanyddol.

"Roedd Bradley yn ddisgybl dawnus gyda chymaint i'w gynnig a bydd St. John Lloyd yn lle tlotach hebddo."

Mae Mr Howells hefyd wedi canmol ymddygiad staff a disgyblion yr ysgol yn ystod y cyfnod anodd, gan bwysleisio bod cymorth ar gael i ddisgyblion yr ysgol sydd wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth Bradley.

Roedd hefyd wedi datgan nad oes yna amgylchiadau amheus i'r farwolaeth, ac "yn groes i rai adroddiadau, ni fu unrhyw arf yn rhan o'r digwyddiad".

Cynnal ymchwiliad ffurfiol

Dywedodd y cynghorydd Glynog Davies, aelod o fwrdd gweithredol y sir sydd â chyfrifoldeb am addysg: "Mae ymchwiliad ffurfiol yn cael ei gynnal, felly byddai'n amhriodol i ddamcaniaethu ar yr amgylchiadau i'r digwyddiad trasig yma.

"Rydym ar y cyd gydag asiantaethau eraill yn parhau i gydweithio yn agos gyda'r ysgol a'r heddlu i gynnig cymorth ym mhob ffordd posib.

"Dymunwn estyn ein cydymdeimlad dwys i'r teulu, ffrindiau a phawb yn St John Lloyd ar yr amser anodd yma."

Cyn ei gyfnod yn Ysgol St John Lloyd roedd Bradley yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman.

Dywedodd llefarydd: "Roedd Bradley John yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman ar ddechrau blwyddyn 7. Yn ystod ei amser byr yn yr ysgol cafodd ei annog i gyrraedd ei lawn botensial.

"Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaelth Bradley ac mae ein meddyliau gyda'r teulu ar yr amser trasig yma."