Tân Aberystwyth: Dod o hyd i weddillion dyn

  • Cyhoeddwyd
Tân gwesty Aber
Disgrifiad o’r llun,

Mae un dyn yn parhau ar goll yn dilyn y tân yng ngwesty Tŷ Belgrave

Dywed yr heddlu sy'n ymchwilio i achos tân mewn gwesty yn Aberystwyth eu bod wedi dod o hyd i weddillion dynol.

Dywedodd llefarydd mai gweddillion dyn oeddynt, ond nad ydynt wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol.

Ar ôl y tân yn Nhŷ Belgrave yn oriau mân y bore ar 25 Gorffennaf, fe wnaeth yr heddlu ddweud bod dyn o Lithwania ar goll.

Mae ei deulu wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf.

Cafodd 12 o bobl eu hachub o'r safle yn ddiogel.

Mae Damion Harris, 30 oed o ardal Llanbadarn, wedi ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae'r heddlu yn ymgynghori gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron am y datblygiad diweddaraf."

Ffynhonnell y llun, Keith Morris

Mae Swyddfa'r Crwner hefyd wedi cael gwybod ac mae trefniadau wedi eu gwneud i gynnal post mortem.

Bu'n rhaid i'r heddlu a diffoddwyr aros dros fis ar ôl y tân, nes bod yr adeilad yn ddigon diogel i'w archwilio.

Dywedodd llefarydd fod swyddogion fforensig yn parhau i archwilio'r safle.