Hammond yn addo cefnogi economi Cymru ar ôl Brexit
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau bod economi Cymru yn derbyn "cefnogaeth lawn" ar ôl gadael yr UE, yn ôl y Canghellor Philip Hammond.
Ar ymweliad ag Abertawe, dywedodd y byddai trafodaethau'n cael eu cynnal ar gronfa rhannu llewyrch - fyddai'n cymryd lle grantiau'r UE - yn ddiweddarach eleni.
Daw yn dilyn pryder am ddyfodol y gyllideb ar gyfer datblygu sgiliau pobl ifanc mewn rhannau difreintiedig o Gymru ar ôl Brexit.
Mae Cymru wedi derbyn £4bn gan yr UE hyd yn hyn.
Mae'r Wales Co-operative Centre yn ofni y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu rhoi arian tuag at y syniadau gorau, yn hytrach na'r mannau sydd wir mewn angen ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Un cynllun sydd wedi derbyn mwy na £5m gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop fel rhan o'r taliadau diwethaf yw Technocamps.
Wedi ei arwain gan Brifysgol Abertawe, mae'r cynllun yn annog miloedd o ddisgyblion i gymryd rhan mewn clybiau ar ôl ysgol er mwyn datblygu sgiliau cyfrifiadurol - fel creu apiau a chodio.
Mae Technocamps eisoes wedi helpu dros 40,000 o ddisgyblion ers 2011, ond cyllideb gan yr UE sydd wedi galluogi iddynt gyflogi 25 aelod o staff, ac mae ansicrwydd nawr am yr hyn fydd yn digwydd ar ôl 2023.
Brwdfrydedd
Cafodd Alfie Hopkin o Lanelli ei ysbrydoli i ddatblygu apiau ei hun pan yn 14 oed, ar ôl ymweld â gweithdy Technocamps.
Nawr yn 20 oed, mae Mr Hopkin yn gweithio fel datblygwr meddalwedd ym Mhen-y-bont tra'i fod o hefyd yn cwblhau gradd ym Mhrifysgol Abertawe.
"Roedd Technocamps yn wych oherwydd roedd pobl yn frwdfrydig am yr hyn roedden nhw'n ei wneud. Roedd o'n galluogi i mi ddarganfod os mai dyma oeddwn i am ei wneud gyda fy mywyd," meddai.
"Doeddwn i 'mond yn ifanc, ac roedd cael pobl tu ôl i mi fel yna yn beth eithaf mawr.
"O ran ariannu prosiectau fel Technocamps, 'dwi'n gobeithio bydd y DU yn parhau i'w gyllido gan eu bod nhw wir yn helpu ac mae'r sector dechnoleg yn tyfu."
Dywedodd Lynn Davies, rheolwr Mr Hopkin ei bod yn "poeni na welwn ni'r lefel yma o gyllideb wrth fynd yn ein blaenau".
Cyfnod 'ansicr'
Yn ôl yr athro Faron Moller, y gwyddonydd cyfrifiadureg sy'n gyfrifol am raglen Technocamps, mae arian yr UE wedi galluogi iddynt gyrraedd dros 40,000 o bobl ifanc ar hyd Cymru.
Bellach mae ganddynt hwb ar gyfer gweithdai ysgolion ym mhob adran cyfrifiadureg ym mhrifysgolion Cymru - ac wedi llwyddo i gyrraedd canran uchel o ferched, sydd ddim yn niferus ar gyrsiau gradd.
"Gyda'r DU yn gadael yr UE blwyddyn nesaf, mae cyllid Technocamps yn ansicr iawn, ac er bod arian yr UE yn cynnal y rhaglen ar hyn o bryd, nid oes dewis arall amlwg unwaith mae'r cyllid yma yn dod i ben" meddai.
Yng Nghwm Rhondda, mae Fern Partnership wedi tyfu dros y tair blynedd diwethaf a bellach yn gweithio o fewn saith adeilad cymunedol yn cynnig gofal plant, cyrsiau hyfforddi, clybiau swyddi a chyfleusterau llyfrgell.
Mae'r bartneriaeth wedi derbyn cyngor ar sut i ddatblygu'r Wales Co-operative Centre a'u prosiect busnes cymdeithasol.
Dywedodd Michelle Corburn-Hughes, cyfarwyddwr datblygiad cymunedol Fern Partnership: "Does neb yn gwybod ar hyn o bryd, fel sefydliad, oes bydd y gyllideb yn cael ei dynnu 'nol, hoffwn feddwl y byddwn ni'n ei gwneud hi beth bynnag.
"Yr hyn fydd yn anodd i ni yw pa mor galed fydd y siwrne honno."
Mae disgwyl i brosiectau gwerth £3.2bn barhau hyd at 2020, gyda £2.1m o'r UE yn cael ei rannu rhwng y gronfa gymdeithasol ac arian datblygu cymdeithasol.
Yn ôl Derek Walker o'r Wales Co-operative Centre mae cyllid yr UE wedi helpu hyfforddi sgiliau, helpu gyda chynnig swyddi yn ogystal â chefnogi mentrau cymunedol mewn ardaloedd difreintiedig.
"Heb gyllideb yr UE rydyn ni'n poeni am yr hyn all ddigwydd nesaf, ac yn ansicr o be fydd yn cefnogi'r swyddi a'r gwasanaethau hyn yn ein cymunedau," meddai.
"Dydw i ddim yn meddwl bydd neb arall yn camu i mewn. Nid oes yna farchnad ar gyfer y fath yma o wasanaethau felly os nad yw Llywodraeth Cymru yn derbyn yr arian, o le fydd o yn dod?"
'Trawsnewidiad technolegol'
Ond dywedodd Mr Hammond ddydd Mercher bod gan Lywodraeth y DU record gref o ran ariannu prosiectau ar gyfer pobl ifanc.
"Byddwn yn sicrhau bod economi Cymru - sy'n gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd - yn parhau i gael cefnogaeth fel y gall chwarae ei rhan yn nhrawsnewidiad technolegol economi'r DU," meddai.
Ychwanegodd y byddai'r gronfa rhannu llewyrch yn cael ei gyflwyno dim ots beth fyddai canlyniad y trafodaethau gyda'r UE, ond bod y llywodraeth yn dal i weithio ar y manylion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2018
- Cyhoeddwyd17 Medi 2018
- Cyhoeddwyd23 Awst 2018