Nifer y bobl o'r UE sy'n gweithio yng Nghymru'n gostwng
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy'n gweithio yng Nghymru wedi gostwng am y tro cyntaf ers 2010, yn ôl ffigurau swyddogol.
Er y gostyngiad, y ffigwr ar ddechrau'r flwyddyn o 42,900 yw'r ail ffigwr uchaf dros y ddegawd ddiwethaf.
Daw'r ffigyrau wrth i adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n asesu effaith Brexit ar y farchnad lafur, gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Mae Gweinidogion yn San Steffan yn dweud y byddant yn "adeiladu system fewnfudo sy'n deg a rheoledig".
O dan gynllun Chequers y Prif Weinidog, mae Llywodraeth San Steffan yn dweud y bydd polisi rhyddid i symud yr Undeb yn dod i ben yn 2021.
Mae manylion llawn polisi mewnfudo newydd i fod i gael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.
Cyflogwyr yn 'poeni'
Mewn adroddiad dros dro, dywedodd y Pwyllgor Cynghori Mudo fod cyflogwyr y DU yn "poeni" ynglŷn â beth fydd y system mudo yn y dyfodol ar ôl i Brydain adael yr UE.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), mae'r nifer o ddinasyddion yr Undeb sy'n symud i'r DU wedi parhau i ostwng yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Mawrth 2017, roedd yna 87,000 yn fwy o bobl o'r UE wedi dod i fyw yn y DU nag oedd wedi gadael.
Mae ffigyrau'r ONS hefyd yn dangos bod y nifer o bobl o wledydd yr UE mewn cyflogaeth yng Nghymru wedi cyrraedd 47,300 ym mis Mawrth 2017 - y lefel uchaf mewn degawd - cyn gostwng am y tro cyntaf mewn wyth mlynedd i 42,900 yn y flwyddyn ganlynol.
Un o'r rheiny sydd wedi gadael Cymru a dychwelyd i wlad ei genedigaeth yw Sandra Pijowczyk, a symudodd i Ferthyr Tudful gyda'i theulu Pwyleg saith mlynedd yn ôl.
Er bod ei rhieni, ei chwaer a'i frawd yng nghyfraith yn dal i fyw yng nghymoedd y de, dychwelodd Sandra adref ychydig fisoedd ar ôl i'r DU bleidleisio i adael yr UE.
Yn fflat ei theulu yn Ruda Slaska, dinas ger Katowice yn ne Gwlad Pwyl, dywedodd: "Nid Brexit oedd y gwir reswm pam des i'n ôl i Wlad Pwyl ond roeddwn i'n meddwl, beth os na allaf weld fy nheulu bellach?"
"Efallai pan oeddwn i'n iau, roedd e [Cymru] yn teimlo fel cartref. Roeddwn i eisiau symud yno, roeddwn am weld diwylliant newydd, roeddwn i eisiau gweld pobl newydd, ond pan wnes i dyfu'n hŷn roeddwn i'n gwybod nad dyna oedd cartref.
"Roeddwn i'n gwybod mai fy nghartref oedd Gwlad Pwyl felly roeddwn i eisiau symud yn ôl."
Ansicrwydd
Yng Nghymru, derbyniodd tua 30% o'r oddeutu 8,800 o feddygon sy'n gweithio yn y wlad eu hyfforddiant dramor, tra bod tua 6% ohonynt wedi'u hyfforddi mewn gwledydd yr UE.
Mae Andzelina Ngo, 23, sydd ar fin cychwyn ei phumed flwyddyn ym mhrifysgol Silesia yn Katowice, Gwlad Pwyl, wedi dychwelyd yn ddiweddar o'r DU ar ôl ymweld â'i chwaer.
"Byddwn wrth fy modd yn aros yng Ngwlad Pwyl ond nid yw'r amodau cyflogaeth yng Ngwlad Pwyl yn wych ar hyn o bryd," meddai.
"I fod yn onest, roeddwn i'n meddwl symud i'r DU oherwydd bod fy chwaer yn byw yno ac oherwydd mai Saesneg yw fy ail iaith. Ond, ar hyn o bryd, nid wyf yn gwybod a fydd yn bosibl."
O'r holl bobl cafodd eu geni dramor oedd yn byw yng Nghymru yn 2011, roedd y grŵp mwyaf yn dod o Wlad Pwyl.
Roedd cynnydd o 227% dros y ddeng mlynedd hyd at 2011 yn y nifer o bobl o dramor oedd yn byw ym Merthyr Tudful, a daeth llawer o'r rheiny o Wlad Pwyl gan gynnwys Piotr Wojcik.
Mae Mr Wojcik wedi byw ym Merthyr ers degawd, ond er ei fod yn "hapus byw yma" mae ganddo gynlluniau i symud yn ôl i Wlad Pwyl oherwydd ei fod yn colli ei deulu.
Dywedodd Klaudyna Dubis, sydd â phlant yn mynychu'r un Ysgol Gynradd San Aloysius a phlant Mr Wojciky, yn dweud er ei bod hi'n "poeni ychydig" am Brexit, mae hi a'i theulu yn bwriadu aros yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2018
- Cyhoeddwyd8 Medi 2018
- Cyhoeddwyd23 Awst 2018