Rheolwyr cartref nyrsio Gwynedd heb ymateb i rybuddion

  • Cyhoeddwyd
Cartref nyrsioFfynhonnell y llun, Google

Roedd arolygwyr wedi darganfod fod cartref nyrsio preifat yng Ngwynedd heb ymateb i rybuddion am y ffordd roedd yn cael ei redeg, chwe diwrnod cyn i reolwyr gyhoeddi bod y lle yn cau.

Cafodd gweithwyr a pherthnasau 20 o drigolion Cartref Penisarwaun, ger Caernarfon, sioc wrth glywed ar 12 Gorffennaf fod y ganolfan yn cau ymhen wythnos a bod y busnes yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Bellach mae wedi dod i'r amlwg bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi trefnu ymweliad dirybudd ar 6 Gorffennaf ar ôl cael gwybod am bryderon fod rheolwr dros dro wedi gadael, a bod dim dirprwy i ysgwyddo'r cyfrifoldeb.

Daeth yn amlwg bod y cartref wedi bod heb reolwr ers 2010.

Roedd yna ddau adroddiad beirniadol cyn hynny ynghylch trefniadau'r cartref, oedd yn rhan o gwmni Paul's Care Services, ac ym mis Mai fe gafodd ei gofnodi'n ffurfiol fel gwasanaeth oedd yn peri pryder.

Oherwydd hynny, roedd y cartref yn cael ei atal rhag derbyn trigolion newydd.

Dim digon o staff

Mae adroddiad arolygwyr yn dilyn ymweliad 6 Gorffennaf, sydd newydd ei gyhoeddi, yn dangos fod y cartref yn torri wyth o reolau oedd wedi eu nodi ym mis Mai.

Roedd y materion dan sylw yn cynnwys penodi rheolwr, cael digon o staff cymwys ar ddyletswydd, paratoi cynlluniau gofal manwl ar gyfer trigolion, a lleihau risgiau.

Roedd diffyg rheolwr wedi ei nodi mewn saith adroddiad blaenorol.

Dywedodd yr arolygwyr bod gweithwyr y cartref yn "garedig a gofalgar" ond bod lefelau staffio yn annigonol i ddiwallu anghenion trigolion yn effeithiol.

Yn ôl crynodeb yr adroddiad, doedd y gwasanaeth ddim yn cael ei redeg a'i reoli gyda'r gofal a'r gallu angenrheidiol.

Hyfforddiant anghyson

"Mae hyfforddiant staff yn anghyson ac mae'n cael effaith ar y gofal a'r gefnogaeth y mae pobl yn derbyn," meddai'r adroddiad.

"Mae diffyg gwybodaeth y sawl sy'n gyfrifol am y rheoliadau yn effeithio ar eu gallu o oruwchwylio rhedeg y gwasanaeth yn ddiogel."

Roedd y perchnogion hefyd wedi methu â rhoi gwybod i'r arolygiaeth eu bod wedi gofyn wrth gwmni methdalu i ddechrau dod â busnes y cartref i ben.

Yn ystod yr ymweliad, dywedodd nyrs wrth yr arolygwyr bod y cyfarwyddwyr newydd ddweud wrthi mai hi fyddai'n gwneud gwaith rheolwr y cartref.

Mae cyfarwyddwyr y cwmni yn rhedeg dau gartref arall yn Sir Gaerhirfryn.