National Theatre Wales yn 'tanseilio' artistiaid Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd y dramodydd Gary Owen bod National Theatre Wales yn "anwybyddu artistiaid yng Nghymru"

Mae 40 o ddramodwyr wedi cyhuddo National Theatre Wales (NTW) o "danseilio" artistiaid Cymreig.

Mewn llythyr at gadeirydd NTW, dywedodd y dramodwyr nad oedd y cwmni yn cefnogi ysgrifenwyr o Gymru.

Mae Gary Owen, Caryl Lewis a Sharon Morgan ymhlith llofnodwyr y llythyr.

Dywedodd National Theatre Wales bod y llythyr yn "ffeithiol anghywir".

Yn eu llythyr at Clive Jones mae'r dramodwyr yn dweud mai "gyda thristwch mawr" maent yn rhannu eu "hanfodlonrwydd".

Mae'r llythyr yn parhau: "Mae cyfeiriad NTW, ynghyd â diffyg archwiliaeth a thryloywder, wedi arwain at ddiwylliant mewnol sydd, er gwaethaf enw'r cwmni, yn ymddangos fel pe bai'n ymfalchïo mewn diosg unrhyw hunaniaeth theatrig ac hyd yn oed ei natur genedlaethol."

'Trobwynt'

Mae llofnodwyr y llythyr yn mynegi pryderon "ynglŷn â phrinder cynyrchiadau theatrig NTW ers ymadawiad [y cyfarwyddwr artistig blaenorol] John McGrath", gan honni mai ond dau gynhyrchiad sydd wedi'u cadarnhau yn gyhoeddus ar gyfer gweddill 2018 a 2019.

Wrth alw am newidiadau i'r cwmni, mae'r llythyr yn gofyn bod gan bob cynhyrchiad "brif artist sydd o Gymru neu sydd yn byw yma".

Ffynhonnell y llun, Carlos Reyes-Manzo
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Clive Jones ei benodi'n gadeirydd National Theatre Wales yn 2016

Daw galwad hefyd bod cwmnïau ac artistiaid o du hwnt i Gymru "o'r radd flaenaf" ac ond yn cael eu penodi "er mwyn cefnogi artist sydd o Gymru neu sydd yn byw yma".

Mae'r dramodwyr yn beirniadu cynhyrchiad diweddar gan NTW, 'English', gan honni nad oedd y sioe wedi trafod y berthynas rhwng Saesneg a'r Gymraeg, ac nad oedd y cyfarwyddwr yn dod o Gymru.

Yn ôl y dramodwyr, roedd 'English' yn "drobwynt i gynifer o artistiaid yng Nghymru".

Diffyg cefnogaeth

Dywedodd un o lofnodwyr y llythyr, Gary Owen: "Yn y blynyddoedd diwethaf mae NTW wedi symud fwyfwy at gomisiynu theatrau, cwmnïau theatr ac artistiaid o du fas i Gymru i ddod i greu gwaith yma, ac yn aml iawn y canlyniad yw eu bod yn methu cysylltu â'r gymuned leol, a ddim yn ystyried hanes Cymru a'r profiad Cymreig.

"Tro ar ôl tro dyw National Theatre Wales ddim wedi cefnogi ein hartistiaid. Maent yn dod a phobl yma i adrodd straeon amdanom ni, ac yn gwneud hynny'n anghywir, fel gydag 'English'.

"Mae hwn yn tanseilio artistiaid Cymreig a theatr Gymreig wrth ddewis peidio gweithio gydag artistiaid Cymreig.

"Ac eto, i wneud bywoliaeth fel artist mae'n rhaid bod yn llwyddiannus yn rhyngwladol, a dyna beth rydyn ni i gyd yn gwneud. Ry'n ni'n ddigon da ar gyfer gweddill y byd, ond mae'n ymddangos nad y'n ni'n ddigon da ar gyfer ein theatr ni."

Ffynhonnell y llun, National Theatre Wales

Mewn datganiad dywedodd National Theatre Wales eu bod "yn ymwybodol o lythyr wedi'i gyfeirio at gadeirydd ein bwrdd".

"Tra bod llawer o gynnwys y llythyr yn ffeithiol anghywir, mae'n drws ni ar agor fel erioed i artistiaid.

"Roedd ein cyfarwyddwr artistig eisoes wedi trefnu cwrdd â llawer o lofnodwyr y llythyr ym mis Tachwedd, ond os hoffen nhw gwrdd yn gynt, rydym ni'n fwy na pharod i wneud."