Carcharu Jonathan Drakeford am dreisio ac ymosod

  • Cyhoeddwyd
Jonathan DrakefordFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae Jonathan Drakeford wedi ei ddedfrydu i wyth mlynedd ac wyth mis o garchar ar ôl i lys ei gael yn euog o dreisio ac ymosod.

Cafwyd Drakeford, sy'n 31 ac o Gaerdydd, yn euog o'r troseddau yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.

Roedd eisoes wedi cyfaddef trosedd yn ymwneud â chyfathrebiadau ar-lein o natur rywiol gyda pherson yr oedd yn credu oedd yn ferch 15 oed.

Mae Jonathan Drakeford yn fab i'r gweinidog yn Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford.

'Effaith enfawr'

Dywedodd y barnwr bod y treisio a'r ymosod yn Nhachwedd 2016 wedi bod yn "estynedig" ac wedi "cywilyddio'r" dioddefwr.

Clywodd y llys bod gan Jonathan Drakeford sgôr IQ isel a diffyg sgiliau cymdeithasol, bod asesiad wedi dangos ei fod yn awtistig a bod ei sgiliau darllen yn debyg i rai rhywun 10 oed.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr J Furness QC bod y drosedd o dreisio yn ymwneud â dangos awdurdod dros y dioddefwr.

Mewn datganiad, dywedodd y dioddefwr bod y troseddau wedi cael "effaith enfawr" ar ei bywyd, a hynny "yn emosiynol, yn feddyliol ac yn gorfforol".

Cafodd Jonathan Drakeford ddedfryd o saith mlynedd a chwe mis am dreisio a 18 mis am ymosod, i gyd-redeg.

Cafodd ddedfryd olynol o 14 mis am y drosedd ryw.

Mewn datganiad yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Mark Drakeford bod ei deulu wedi bod drwy gyfnod anodd, a bod eu meddyliau "gyda phawb sydd ynghlwm â'r achos, yn enwedig y dioddefwr".