Tabledi'n 'ateb tymor byr' yn niffyg gofal iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
TablediFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae tabledi gwrth-iselder ymhlith y cyffuriau sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn gan rai meddygon teulu fel "ateb tymor byr" oherwydd oedi cyn bod cleifion yn cael triniaethau iechyd meddwl, yn ôl meddyg teulu blaenllaw.

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn credu bod dim dewis gan rai meddygol am fod cyfeiriadau ar ran cleifion yn cymryd nifer o wythnosau.

Roedd yna 16m o bresgripsiynau yn ymwneud â chyflyrau iechyd meddwl yn 2017/18 - 4.4m yn uwch na 10 mlynedd yn ôl.

Dywed Llywodraeth Cymru fod mwy o arian wedi ei roi i sicrau triniaethau.

"Mae gwasanaethau cynghori ar iechyd meddwl cymunedol dan straen," meddai'r Dr Peter Saul, cyd gadeirydd y Coleg Brenhinol yng Nghymru.

Modd osgoi rhai presgripsiynau

"Fe alla'i gyfeirio cleifion am therapïau trafod ond mae'n wythnosau, yn aml, cyn iddyn nhw gael eu hasesu.

"Y broblem, rwy'n meddwl, yw byddai modd osgoi rhai presgripsiynau pe bydde'n haws cael therapïau trafod."

Pan ofynnwyd os mae'n bosib bod presgripsiynau'n cael eu rhoi fel ateb tymor byr, atebodd Dr Saul: "Yn hollol."

Y cynnydd yn nifer y presgripsiynau mewn achosion iechyd meddwl oedd yn un fwyaf mewn unrhyw gategori o gyffuriau mewn 10 mlynedd.

Roedd 16.3m o'r 79.9m o brescripsiynau a gafodd eu rhoi yn 2017/18 yn ymwneud â iechyd meddwl.

11.9m allan o gyfanswm o 64.8m oedd y ffigyrau cyfatebol yn 2008/09.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Chloe Pearce iddi gael dau brofiad gwahanol iawn wrth ofyn am help meddygon teulu

'Siarad yw'r ateb gorau'

Roedd Chloe Pearce yn 13 ac â'r anhwylder bwyta, anorecsia pan aeth i weld ei meddyg teulu saith mlynedd yn ôl. Fe gafodd therapi oedd yn ei galluogi i drafod ei phroblemau.

Ond fe gafodd profiad gwahanol y llynedd pan aeth eto i'r lle doctor am help i ddelio â gorbryder.

"Eisteddais i lawr ac roedd yn achos o 'be 'dych chi eisiau '?" dywedodd. "Ges i fy synnu.

"Mae gyda chi cyn lleied o amser [gyda'r meddyg] ac mae'n ymddangos bod cynnig meddyginiaeth yn ateb sydyn, a ffwrdd â chi.

"Doeddwn i ddim yn or-awyddus i gymryd meddyginiaeth... Wnes i edrych yn ôl ar yr hyn wnes i ddysgu o'r blaen yn ystod therapi.

"Cael mwy o amser a gallu siarad fydde'r ateb gorau."

Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r ystadegau ddim yn synnu'r Dr Peter Saul

Dywedodd Dr Saul nad oedd y ffigyrau yn ei synnu, gan fod yna fwy o ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl a mwy o bobl yn mynd i weld eu meddyg teulu.

Ond mae oedi cyn cael help, meddai, yn "dileu'r siawns" i bobl wella'n gynt

"Mewn byd delfrydol, gallen ni roi cynnig ar fwy o sesiynau cynghori neu feddyginiaeth neu efallai y ddau beth, ac fe allwn i drio cael cynghorwr i'w gweld ddydd Llun nesaf. Ond gan amlaf, mae'n [cymryd] dair neu bedair wythnos."

'Dewis yw'r allwedd'

Dywedodd elusen Mind Cymru bod hi'n "bosib" bod prescripsiynau'n cael eu defnyddio fel ateb tymor byr ond does dim tystiolaeth ystadegol.

Ond mae'r elusen wedi cynnal arolwg gan holi dros 500 o bobl oedd wedi mynd at feddyg teulu gyda phroblemau iechyd meddwl, ac roedd 44% wedi cael presgripsiwn a 12% wedi eu cyfeirio ar gyfer therapïau trafod.

Dywedodd pennaeth polisi'r elusen, Simon Jones: "Mae mwy o bobol yn mynd at feddyg teulu i drafod materion iechyd meddwl.

"Yr allwedd yw cael dewis o ran y ffordd ymlaen... a pha mor sydyn y mae modd gweithredu.

"Rydym yn gwybod bod yna bwysau o ran cael mathau arbennig o therapïau trafod. Os ydych hi mewn ardal gyda rhestr aros hir neu dyw'r gwasanaeth ddim ar gael, dyna pryd gellir defnyddio meddyginiaeth."

Mae'r elusen yn galw am sicrhau triniaeth i gleifion o fewn 28 diwrnod o ofyn amdano.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymroddi i wella gwasanaethau iechyd meddwl ac yn darparu £5.5m yn rhagor o arian i wella mynediad i therapïau seicolegol

"Mae tabledi gwrth-iselder yn driniaethau effeithiol a sydd o'u defnyddio'n briodol yn helpu nifer fawr o bobl."

Ychwanegodd eu bod yn disgwyl i feddygon teulu ddefnyddio'u profiad clinigol i benderfynu pa driniaeth sydd orau i'r cleifion.