Cyffuriau gwrth-iselder: Galw am fwy o gefnogaeth
- Cyhoeddwyd

Mae diffyg cefnogaeth a thriniaeth i bobl sy'n ddibynnol ar gyffuriau gwrth-iselder, yn ôl ymgyrchwyr yng Nghymru.
Dywedodd un sy'n dioddef ei fod yn mynd yn sâl os nad yw'n eu cymryd bellach.
Yn ôl arbenigwr o Brifysgol Bangor, mae gormod o bresgripsiynau'n cael eu rhoi a dyw nifer o gleifion ddim yn cael gwybod am y risgiau o'u cymryd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi buddsoddi £4m yn ychwanegol mewn triniaethau seicolegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
'Ddim yr un person'
Dywedodd James Moore, 46 o Sir Fynwy, ei fod wedi dioddef gyda diffyg cwsg, panig a gor-bryder ar y tri achlysur mae wedi ceisio rhoi'r gorau i'w cymryd.
Fe ddechreuodd eu cymryd yn 2012 i ddelio â phanig, ond dyw ddim wedi gallu stopio.

Mae James Moore yn dweud na fyddai wedi dechrau cymryd cyffuriau gwrth-iselder pe byddai wedi cael rhybudd am eu peryglon
"Rydw i wedi colli fy swydd, fy mywyd cymdeithasol, fy ngyrfa a fy nheimlad o bwy ydw i," meddai.
"Dydw i ddim yr un person ar y cyffuriau ag oeddwn i o'r blaen."
Ychwanegodd, pe bai wedi cael ei rybuddio am beryglon mynd yn ddibynnol ar gyffuriau gwrth-iselder, na fyddai wedi eu cymryd o gwbl.
Yn ôl Dr David Healy, athro seiciatreg ym Mhrifysgol Bangor, nid doctoriaid sydd ar fai yn y mwyafrif o achosion, am nad ydyn nhw wedi eu gwneud yn ymwybodol o'r pryderon chwaith.
"Gallech chi fynd yn gaeth i'r cyffuriau 'ma, a gall fod yn agos at amhosib i ddod oddi arnynt," meddai.
'Budd anferth'
Ond mae meddygon eraill yn dweud bod y da mae cyffuriau gwrth-iselder yn gallu ei wneud yn fwy na'r peryglon.
Dywedodd Dr Adarsh Shetty o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru ei fod yn gweld "pobl sydd wedi cael budd anferth ohonyn nhw".
"Mae'n bwysig i bwysleisio nad yw'r cyffuriau'n rhai sy'n gwneud llawer o bobl yn gaeth," meddai.

Dywedodd Dr David Healy y gall hi fod yn "agos at amhosib" i ddod oddi ar y cyffuriau
Dywedodd Dr Jane Fenton-May o Goleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru bod doctoriaid yn gwneud eu gorau i argymell cyffuriau gwrth-iselder dim ond pan eu bod yn credu y bydd hynny o fudd i'r claf.
"Os ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n briodol gall cyffuriau gwrth-iselder fod yn rhan effeithiol o driniaeth, ond mae angen trafod gyda chleifion i benderfynu beth sy'n gweithio orau ym mhob achos unigol," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "amryw o driniaethau i fynd i'r afael ag iselder sydd ddim yn feddyginiaeth", a'i fod wedi buddsoddi £4m yn ychwanegol mewn triniaethau seicolegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Rydyn ni'n annog cleifion i siarad gyda'u meddyg teulu, fyddai'n gallu eu helpu i wneud penderfyniadau am eu gofal," meddai'r llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018