Pobl ifanc yn cael triniaeth iechyd meddwl ymhell o adref

  • Cyhoeddwyd
Depressed, lonely girlFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Ers 2012 mae 8% o gynnydd wedi bod yn y nifer y plant sy'n derbyn triniaeth iechyd meddwl y tu hwnt i Gymru.

Nos Lun bydd rhaglen Panorama'r BBC yn gofyn a yw gwasanaethau iechyd meddwl Cymru a Lloegr i blant a phobl ifanc yn addas.

Bu'n rhaid i Cerys, sy'n 18 oed, deithio o dde Cymru i Lundain i gael triniaeth am nad oedd adnoddau arbenigol i drin ei chyflwr anhwylder bwyta yng Nghymru.

Dywedodd: "Roedd mynd i ysbyty seiciatrig yn ei hun yn frawychus ond roedd teithio siwrne bump awr o adref yn fwy brawychus byth."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod yn rhaid i blant yn aml deithio i ganolfannau arbenigol yn Lloegr.

Un o'r rhesymau sydd wedi cael ei roi am hynny yw prinder staff.

Profiad Cerys

Roedd Cerys yn blentyn hapus nes iddi ddatblygu teimladau o orbryder bum mlynedd yn ôl.

Dywedodd: "Dechreuais deimlo'n anghysurus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a theimlo'n lletchwith am fynd i lefydd cyhoeddus.

"Dechreuais ddatblygu symptomau OCD ac roedd y cyfan yn ymwneud â fy ofn i am ddiffyg glendid.

"Roeddwn yn treulio dyddiau yn glanhau y tŷ ac fe achosodd y cyfan anorecsia."

Cafodd fynd i ysbyty cyffredinol yng Nghymru ond gan nad oedd yno adnoddau i ddelio ag anhwylderau bwyta cafodd ei hanfon i Lundain.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn yn aml yn cael sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness)

Ym mis Ebrill dangosodd adroddiad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad bod y rhan fwyaf o'r rhai sydd angen gofal iechyd meddwl arbenigol angen teithio i Loegr.

Roedd yna sylw arbenig i ddiffygion i wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru.

Mae Heddlu'r De wedi galw am well addysg iechyd meddwl mewn ysgolion wedi i nifer y bobl ifanc sy'n dioddef o iechyd meddwl gynyddu.

Ffynhonnell y llun, NSPCC

Triniaeth cyn mynd i'r coleg?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad i wasanaethau iechyd meddwl mor agos i adre â phosib.

"Ond ar adegau mae'r gofal arbenigol sydd ei angen ond ar gael yn Lloegr."

Dywedodd Dr Jon Goldin o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion bod trosglwyddo o wasnaethau iechyd meddwl plant i un oedolion hefyd yn gallu achosi problem.

Cafodd cais Cerys i drosglwyddo i wasanaeth oedolion ei wrthod yn wreiddiol ond wedi brwydr mae hi bellach wedi'i derbyn.

"Yn anffodus,"meddai, "mae rhestr aros cyn cael therapi. Gobeithio y gallaf gael triniaeth cyn mynd i brifysgol"