Codiad cyflog i feddygon a deintyddion yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
![Vaughan Gething](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/EEED/production/_103556116__103508293_vaughangething_walesreport.jpg)
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, bod y cytundeb newydd yn "risg" i gyllid y GIG yng Nghymru yn y dyfodol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd i gyflogau meddygon a deintyddion yng Nghymru.
Yn ôl y llywodraeth, bydd 2% o gynnydd sylfaenol i feddygon a deintyddion sy'n derbyn cyflog, i ymarferwyr meddygol a deintyddol cyffredinol sy'n derbyn cyflog a'r rhai sy'n gontractwyr annibynnol.
Bydd y cynnydd, sy'n fwy hael na'r un yn Lloegr yn ôl Llywodraeth Cymru, yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2018.
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi croesawu'r cyhoeddiad.
'Mynd yn bellach na'r cytundeb dros y ffin'
Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, bod y llywodraeth wedi cytuno'n llawn ar argymhellion y Corff Adolygu Tâl Meddygon a Deintyddion, sy'n banel annibynnol.
Ond cyfaddefodd bod hynny'n "risg o ran cyllido GIG Cymru yn y dyfodol".
Mae'r cytundeb newydd yn golygu 2% arall yn ychwanegol i ymarferwyr meddygol cyffredinol sy'n gontractwyr annibynnol, i ymarferwyr meddygol cyffredinol sy'n derbyn cyflog ac i grant hyfforddwyr ymarferwyr meddygol cyffredinol a chyfradd arfarnwyr ymarferwyr meddygol cyffredinol.
Bydd 1.5% yn ychwanegol hefyd i feddygon arbenigol a chyswllt (SAS).
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Dadansoddiad Owain Clarke, gohebydd iechyd BBC Cymru
Dyw hi ddim yn gyfrinach fod prinder meddygon yn broblem fawr mewn rhai mannau, gyda meddygfeydd lleol yn cau neu'n cael eu trosglwyddo i ofal byrddau iechyd.
'Y ni'n gwybod hefyd fod rhai byrddau iechyd yn gorfod talu crocbris i dalu staff dros dro i gynnal rhai gwasanaethau ysbyty.
Gobaith Vaughan Gething yw y bydd y cynnig yn annog rhagor o feddygon i ddod neu aros yng Nghymru.
Ond mae'n risg.
Mae gwario mwy ar gyflogau wrth gwrs yn golygu gwario arian allai fod wedi cael ei fuddsoddi mewn meysydd eraill.
Ac o fod yn fwy hael na Lloegr mae'n golygu fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i'r arian ychwanegol o'i chyllideb ei hun.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Dywedodd y llywodraeth bod y cytundeb newydd yn "cydnabod gwerth ac ymroddiad meddygon a deintyddion sy'n gweithio'n galed, a'u cyfraniad allweddol i'r GIG yng Nghymru".
"Mae'r cytundeb hwn yn mynd ymhellach na'r hyn y cytunwyd arno ar gyfer meddygon a deintyddion dros y ffin, ac mae'n dangos eto pam y mae Cymru'n lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw ynddo."
Wrth gyhoeddi'r cytundeb newydd, dywedodd Mr Gething: "Yn dilyn blynyddoedd o gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, rydym wedi neilltuo cyllid ychwanegol i fodloni argymhellion y Corff Adolygu.
"Y gwir amdani o hyd, fodd bynnag, yw bod ein cyllidebau'n gyfyngedig, felly mae diwallu cytundeb cyflogau sy'n deillio o godi cap cyflogau Llywodraeth y DU heb gyllid priodol yn ei sgil yn golygu bod risg o ran cyllido GIG Cymru yn y dyfodol."
Cyhoeddiad 'hir-ddisgwyliedig'
Yn ymateb fe ddywedodd Dr David Bailey, cadeirydd y prif gorff sy'n cynrychioli meddygon yng Nghymru (BMA), eu bod yn "blês" gyda'r cyhoeddiad.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd, Angela Burns AC, bod ei phlaid yn croesawu'r cynnydd i gyflogau, oedd yn bosib "oherwydd ymrwymiad Llywodraeth Geidwadol y DU i'r Gwasanaeth Iechyd".
Ychwanegodd bod angen i Lywodraeth Cymru "egluro'n union" sut mae'r cynnig yn well nag yn Lloegr, a dywedodd hefyd bod y cyhoeddiad yn "hir-ddisgwyliedig".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2018