Gweinidog yn cyfnewid Llambed am Augusta, America

  • Cyhoeddwyd
Plac croesawuFfynhonnell y llun, Carie Johnsen

Bydd gwasanaeth go wahanol yn cael ei gynnal yng nghapel Brondeifi, Llanbedr Pont Steffan ddydd Sul gan mai gweinidog o Eglwys Undodaidd yn Augusta, Maine fydd yn cynnal y gwasanaeth.

Bydd gweinidog Brondeifi, y Parchedig Alun Wyn-Dafis yn cynnal gwasanaeth yn Eglwys Maine wrth i'r ddau weinidog gyfnewid lleoliad am dair wythnos.

"Ry'n yn edrych ymlaen," medd Goronwy Evans, cyn-weinidog Brondeifi. "Mae cyfnewid teithiau fel hyn yn beth iach ac mae gan y Parchedig Carie Johnsen gysylltiadau ag ardal Llangadog."

Nos Sadwrn bydd cinio arbennig a gwersi dawnsio gwerin yn Augusta i groesawu Mr Dafis i'w plith.

Ffynhonnell y llun, Carie Johnson
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Parchedig Alun Wyn-Dafis yn treulio tair wythnos yn Augusta

Meinir Evans, un o aelodau Brondeifi, sy'n trefnu digwyddiad croesawu y Parchedig Johnsen.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae'n brofiad hynod o gyffrous, mae rhannu syniadau yn bwysig - ry'n yn ymwybodol bydd y gwasanaethau yn fwy Seisnig eu naws ond dim ond tair wythnos yw e, dyw hynny ddim yn ofid.

"Dydd Sul fe fydd 'na ginio arbennig i'w chroesawu a chyn iddi fynd nôl fe fydd 'na gwrdd diolchgarwch yng nghwmni Ffermwyr Ifainc Cwm-ann - bydd e'n neis iddi weld cyfraniad pobl ifanc yr ardal."

Etholiad 1868

Yn ystod ei hymweliad bydd y Parchedig Carie Johnsen hefyd yn cael y cyfle i fod yn rhan o wasanaeth yng nghapel Llwynrhydowen ger Llandysul i nodi Etholiad Cyffredinol hanesyddol 1868.

Ar y pryd, doedd yna ddim pleidlais gudd, ac am y tro cyntaf fe wnaeth rhyddfrydwyr cyffredin guro'r landlordiaid Torïaidd mewn pleidlais agored.

O ganlyniad, buodd 'na erlid ar denantiaid ac ar gynulleidfa capel Llwynrhydowen - un o'r digwyddiadau a arweiniodd at gyflwyno'r bleidlais gudd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cynulleidfa a gweinidog capel Llwynrhydowen eu troi allan ym 1876

Dywedodd y Parchedig Johnsen ei fod yn "gyfle gwych a bydd y profiad yn sicr o ymestyn ei ffydd a'i harweiniad ysbrydol".

Bydd y gwasanaeth i nodi'r etholiad hanesyddol yn cael ei gynnal yng Nghapel Llwynrhydowen brynhawn Sul, 7 Hydref ond cyn hynny bydd Llambed ac Augusta yn fwrlwm wrth iddynt groesawu y naill weinidog a'r llall.