Iechyd a ffyrdd fydd blaenoriaethau cyllideb Drakeford
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford wedi addo cyllideb i helpu pobl yn eu bywydau dyddiol gyda mwy o arian ar gyfer atgyweirio'r ffyrdd, er nad yw wedi dweud faint.
Y gwasanaeth iechyd fydd y brif flaenoriaeth yn ôl yr ysgrifennydd cyllid, wrtho iddo baratoi i gyhoeddi cynlluniau Llywodraeth Cymru i wario tua £15bn yn 2019/20.
Mae'r cynghorau sir wedi rhybuddio am golli swyddi a thoriadau i wasanaethau craidd o ganlyniad i'r pwysau ar eu cyllidebau.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn gwybod bod llywodraeth leol dan straen, ond ychwanegodd: "Bydd iechyd wastad yn flaenoriaeth i lywodraethau Llafur yng Nghymru."
'Cynnal ffabrig bywyd Cymreig'
Bydd cynghorau'n cael mwy o arian er mwyn helpu i dalu am atgyweirio ffyrdd ar ôl gaeaf garw a haf poeth, meddai.
"Ewch i unrhyw le yng Nghymru ac fe welwch bod hynny wedi cael effaith ar arwynebau'r heolydd," meddai Mr Drakeford wrth BBC Cymru.
Bydd y gyllideb yn canolbwyntio "ar gynnal ffabrig bywyd Cymreig yn ystod cyfnod o anawsterau gwirioneddol," ychwanegodd.
Bydd cyllideb ddrafft dydd Mawrth yn amlinellu faint y bydd pob adran o'r llywodraeth yn ei dderbyn, ond ni fydd manylion o gynnydd a thoriadau i adrannau ar gael tan 23 Hydref.
Yn y nawfed flwyddyn o gynni ariannol - a chyda "cysgod Brexit dros ddyfodol ein heconomi" - dywedodd Mr Drakeford fod gweinidogion wedi ceisio "gwasgu pob ceiniog y gallwn o'r gyllideb".
Dyma fydd y gyllideb olaf cyn i Carwyn Jones gamu lawr fel y prif weinidog ym mis Rhagfyr. Mr Drakeford yw'r ffefryn i'w olynu.
Treth incwm
Hefyd, hon fydd y gyllideb gyntaf sy'n cynnwys pwerau newydd y llywodraeth dros dreth incwm.
Mae Llafur wedi addo peidio â newid y cyfraddau treth cyn etholiad Cynulliad 2021.
Ers penodi'r aelod annibynnol Dafydd Elis-Thomas fel gweinidog y llynedd, mae gan y llywodraeth fwyafrif yn y Cynulliad, sy'n golygu bod dim angen cefnogaeth gan blaid arall i gymeradwyo'r gyllideb.
Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn arian ychwanegol o ganlyniad i addewid Llywodraeth y DU i wario mwy ar iechyd yn Lloegr, ond dyw'r ffigurau manwl ar faint fydd ar gael ddim wedi eu cyhoeddi eto.
Gallai cyllideb y Canghellor effeithio ar hynny ar 29 Hydref.