Llofruddiaeth Pentywyn: Chwilio am ddyn arall

  • Cyhoeddwyd
Steve BaxterFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Steve Baxter ei weld diwethaf yn ardal Penybont-ar-Ogwr

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am help y cyhoedd wrth chwilio am ddyn all fod yn gysylltiedig gyda llofruddiaeth Simon Clark.

Cafodd corff Mr Clark ei ddarganfod mewn maes carafanau ym Mhentywyn ddydd Gwener diwethaf.

Mae yna dri pherson ar hyn o bryd yn y ddalfa wedi iddynt gael eu harestio dros y penwythnos, a chafodd un dyn ei arestio a'i ryddhau.

Mae'r heddlu yn chwilio am berson arall sydd o dan amheuaeth o lofruddiaeth, ac wedi rhannu llun CCTV ohono.

Sawl enw

Mae'n cael ei adnabod yn lleol fel Steve Baxter, ac yn 52 oed, ond mae e hefyd yn defnyddio'r enwau Steve Rowley, Wayne Tidy neu William Tidy.

Cafodd ei weld diwethaf yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ar ddydd Gwener 28 Medi ac mae ganddo gysylltiadau yng ngorllewin a de Cymru ac yng ngorllewin Lloegr.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Huw Davies: "Rydym yn awyddus i ddod o hyd i Steve Baxter. Os oes gennych unrhyw wybodaeth, peidiwch â mynd ato, cysylltwch yn syth ar 999."