Disgwyl cyhoeddi cynlluniau taclo plastig y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Plastig
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusennau yn dweud bod angen gweithredu yn gyflym i daclo'r broblem blastig

Bydd cynlluniau i leihau'r defnydd o gynnyrch plastig sy'n cael ei daflu yn cael eu hamlinellu gan Lywodraeth Cymru'n ddiweddarach.

Yn eu plith mae cydweithio gyda rhannau eraill o'r DU ar gynllun blaendal ar gyfer boteli diod, gyda'r arian yn cael ei rhoi yn ôl i gwsmeriaid os ydyn nhw'n dychwelyd eu poteli.

Bydd y cyhoedd hefyd yn gweld mwy o lefydd cyhoeddus i gael dŵr am ddim a bydd cronfa £15m yn cael ei sefydlu i gynghorau lleol er mwyn gwella casgliadau gwastraff plastig.

Ond mae elusennau amgylcheddol yn annog gweinidogion i weithredu'n gyflym gan honni bod Cymru "ar ei hôl hi".

Yn Lloegr mae'r ysgrifennydd amgylchedd, Michael Gove yn barod wedi cyhoeddi ei fwriad i gynnal ymgynghoriad ar gynllun blaendal i boteli ac mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi ymroi i'r syniad.

Mae'r Gweinidog Amgylchedd, Hannah Blythyn yn bwriadu cwrdd â'i chyfoedion o Lywodraethau'r Alban a'r DU yr wythnos nesaf i drafod rhan Cymru yn y cynllun.

Roedd adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu y byddai'n well i fusnesau ac yn llai cymhleth i'r cyhoedd pe byddai gweinidogion yn gweithio gyda'i gilydd ar y cynllun blaendal ar draws y pedair cenedl.

Ond roedd yr awduron hefyd yn dweud y gallai Cymru weithredu ei chynllun unigol ei hun.

Dywedodd Ms Blythyn wrth BBC Cymru y byddai'n ystyried a fyddai modd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ddigwydd yr un pryd ag un Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid ystyried "yr hyn sy'n gweithio orau i Gymru" o safbwynt y cynllun blaendal poteli, meddai'r Gweinidog Amgylchedd Hannah Blythyn

Byddai'n hoffi gweld y cynllun blaendal yn "digwydd mor fuan ag sy'n ymarferol bosib" ond mae'n mynnu bod angen ystyried sut fyddai'n "gweithio orau i Gymru".

"Mae'n bwysig iawn cofio ein bod ni'n dechrau o le gwahanol iawn [o'i gymharu â'r sefyllfa] yn yr Alban a Lloegr. Llai na 50% yw eu cyfraddau ailgylchu nhw tra bod ein un ni ymhell dros 60%.

"Mae'n bwysig bod unrhyw beth ni'n gwneud nawr yn adeiladu ar hynny."

Mae cynghorau Cymru eisoes yn casglu gwastraff plastig cartrefi trwy fagiau a blychau ailgylchu, gan gasglu tua 65% o'r poteli diodydd sy'n cael eu taflu.

Ail-lenwi poteli

Awgrym yr adroddiad yw y gallai hyn gynyddu i 90% os bydd y cynllun blaendal yn cael ei weithredu ond mae Ms Blythyn yn dweud bod hi'n bwysig ei fod yn "mynd law yn llaw gyda'r hyn mae awdurdodau lleol yn gwneud".

Mae dadansoddiad diweddar cyfraddau ailgylchu ar draws y byd yn awgrymu mai cyfraddau Cymru yw'r gorau ym Mhrydain, yr ail orau yn Ewrop a'r trydydd yn y byd.

Fe gyhoeddodd Ms Blythyn gynlluniau i sicrhau mai Cymru yw'r genedl sy'n "ail-lenwi" gyntaf yn y byd hefyd.

Byddai'n golygu y byddai'r cyhoedd yn gallu ail-lenwi eu poteli gyda dŵr mewn nifer o adeiladau cyhoeddus a busnesau.

Yn ogystal fe fydd £15m o nawdd ychwanegol yn cael ei roi i gynghorau er mwyn gwella'r ffordd y mae deunyddiau ailgylchu'n cael eu casglu, gan gynnwys plastig.

Disgrifiad,

Yr athrawes Helen Davies o Ysgol Gynradd Rhiwbeina yn esbonio'r cynllun i dynnu sylw at broblem blastig un tro sy'n digwydd yn yr ysgol

Ymateb amgylcheddwyr

Dywedodd The Marine Conservation Society y gallai Cymru ymfalchïo yng nghyfradd ailgylchu'r wlad ond fod llygredd plastig yn broblem fawr.

Yn ôl Gill Bell, pennaeth cadwraeth y gymdeithas yng Nghymru fe fyddai'n hoffi Cymru i arwain y ffordd.

Ond mae'r wlad yn cael ei gweld fel ei bod hi "ar ei hôl hi ychydig", meddai, yn sgil cyhoeddiadau mawr gan Lywodraeth y DU a'r Alban yn ddiweddar.

"[Mae Llywodraeth Cymru] wedi comisiynu adroddiad i edrych ar hyn am eu bod nhw eisiau edrych ar y peth mewn ffordd gyflawn, yn hytrach na chyflwyno ychydig o ddeddfwriaeth fan hyn a fan draw.

Disgrifiad,

Mae Heini Evans o'r WWF eisiau gweld gwaharddiad ar blastig sydd ond yn cael ei ddefnyddio unwaith erbyn 2025

"Maen nhw eisiau cael mwy o effaith ond mae hynny'n cymryd amser ac yn y cyfamser bob dydd mae mwy o sbwriel i'w weld ar ein traethau.

"Dewch yn eich blaen Llywodraeth Cymru - gadewch i ni wneud rhywbeth am hyn ac yn gyflym."

Mae Heini Evans o WWF Cymru yn dweud bod y llywodraeth wedi bod yn flaengar yn y gorffennol wrth fod y wlad gyntaf ym Mhrydain i gyflwyno tâl am y defnydd o fagiau plastig. Ond mae angen "gweithredu brys" meddai.

"Rydym ni yn gofyn am waharddiad ar blastig un tro lle y gallen ni gael gwared erbyn blwyddyn 2025."