Tân Aberystwyth: Achos i ddechrau mis Mawrth 2019

  • Cyhoeddwyd
tan aberystwythFfynhonnell y llun, Keith Morris

Mae dyn wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn tân mewn gwesty yn Aberystwyth.

Fy ymddangosodd Damion Anthony Harris, 31 o Lanbadarn, drwy linc fideo er mwyn cadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i ddinasyddiaeth - dywedodd mai "Prydeiniwr gwyn" oedd e.

Mae Mr Harris yn wynebu cyhuddiadau o lofruddio Juozas Tunaitis ac achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i westai arall yn y gwesty, Richard Simnett wedi'r digwyddiad yn Nhŷ Belgrave yn oriau mân y bore ar 25 Gorffennaf.

Cafodd dyddiad ar gyfer yr achos ei nodi gan y barnwr, Keith Thomas, ac mae disgwyl iddo ddechrau ar 14 Mawrth 2019.

Mae Mr Harris yn parhau yn y ddalfa.