Ateb y Galw: Y cerddor Rhydian Dafydd
- Cyhoeddwyd
Y cerddor Rhydian Dafydd o'r band The Joy Formidable sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Rhodri Meilir yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Crïo mewn pwll padlo yn yr ardd gefn gan fod y dŵr mor boeth!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Hmm. Dwi'n amau mai y crush cynta' oedd Jane Seymour. Siŵr o fod drwy wylio ffilmiau Sinbad. Da oedd rheine!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Er o'n i'n actio lot, dwi'n cofio gorfod canu fel unigolyn yn yr Urdd pan yn blentyn ifanc a ddoth dim llais allan. Dwn i'm os mai swildod neu be' oedd, ond roedd yn wers gynnar boenus am hyder. Rhyfedd mai canwr/sgwennwr droies i allan i fod!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
O dwi'n crïo reit aml. Ond collodd Matt, ein drymar, ei frawd i ganser cwpwl o ddiwrnode yn ôl felly mae dipyn o ddagre wedi bod yn ddiweddar wrth gwrs.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes tad. Llosgi y gannwyll ar y ddwy ochr yw un.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
W. Anodd iawn. Mae yna lot dal i'w weld a mae gymaint o'r wlad yn brydferth. Ddudai ambell i le heddiw.
Y daith dros y bryniau o'r Wyddgrug i Drawsfynydd (Cerrigydrudion, Capel Celyn - atgofion o weld Nain a Taid pan yn blentyn); Y Gŵyr (ardal eang efo llefydd cerdded grêt yn ymyl y môr); Ynys Llanddwyn (traeth eitha' lleol, lle da i gerdded i ddianc ac adnewyddu a thawelu y meddwl); Moel Famau (wedi cerdded y bryniau yma sawl gwaith drwy adegau da a drwg. 'Dwi'n mwynhau'r golygfeydd panoramig, y gwyntoedd cryf ac mae'r lle yn fy atgoffa i o adre.)
O Archif Ateb y Galw:
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dw'n i'm os 'di fy mhen yn gweithio fel yna i fod yn onest. 'Di cael gymaint o nosweithiau anhygoel efo ffrindiau a theulu. Y cwmni yw'r prif beth.
O ran cerddoriaeth, roedd chwarae yn Stadiwm y Mileniwm efo Paul McCartney a'r Manic Street Preachers yn sbesial iawn.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Dwi'n gobeithio mai gonest, ffeind a barod i ddysgu/gwrando fydden nhw!
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
The Shining yw un ohonynt. Mae hi yn ffilm berffaith o ran awyrgylch ac adeiladu tensiwn i mi. Mae'r cinematography, manylder y cyfansoddiadau a'r set yn anhygoel, aeddfed ac yn fythgofiadwy. Masterpiece Stanley Kubrick.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Jimi Hendrix. Arwr cynnar i mi. Fuaswn i'n mwynhau rhannu syniadau efo fo, jest siarad, ac wrth gwrs jam bach ar y diwedd!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Roeddwn yn fwnci mewn bywyd arall. Mae cwpwl o ffrindiau yn gwbod hyn yn iawn!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dathlu efo fy nheulu a ffrindiau. Rhannu storïau. Eu cymryd i lefydd prydferth dydyn nhw heb fod a rhannu yr ambell i beth doeth dwi wedi ei gasglu dros y blynydde. Cael gwledd efo digon o fwydydd a cherddoriaeth o gwmpas y byd ac wedyn deifio mewn llong danfor i'r lle dyfna' posib. Wedyn hedfan ni gyd i bob gwlad. Dwi'm yn gofyn lot!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Efallai All along the watchtower gan Jimi Hendrix. Mae'r gân yn fy nghymryd i rywle arall. Rhywbeth prin a phwerus.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cawl Tom Yum, risotto madarch a phwdin toffi stici.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Falle Donald Trump ar hyn o bryd, wedyn fyddai'n gallu rhoi slap go iawn i'n hun a gobeithio deffro yn gall! Fel arall, 'sa bod yn Einstein am y diwrnod yn anhygoel i brofi y lefel yna o ddealltwriaeth.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Lowri Mai (Twinkle and Gloom)