Ateb y Galw: Yr actor Rhodri Meilir
- Cyhoeddwyd

Yr actor Rhodri Meilir sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Llŷr Evans yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cuddio yng nghanol ffrâm ddringo siap sgwâr i osgoi'r athrawon oedd eisiau paentio gwaelod fy nhraed er mwyn i mi redeg ar draws darn mawr o bapur gwyn tra yn y meithrin yn Sir Efrog. Nid y man gorau i guddio ond fi oedd yn fuddugol bryd hynny.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Roedd fy chwaer yn hoff o wylio Neighbours, a minnau hefyd yn hoff o wylio Neighbours pan oedd Beth Brennan (Natalie Imbruglia) yn ymddangos...
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ceisio canu mewn clyweliad ar gyfer cynhyrchiad Theatr Clwyd o Great Expectations pan yn 14 a'n llais rhywle rhwng bod yn llanc, yn ddyn ifanc neu'n froga.
Edrychodd y cyfeilydd arna i fel taswn i newydd ladd ei hoff gi. Ches i mo'r rhan.

Yn ffodus, mae Rhodri wedi profi llwyddiant ers y profiad hwnnw pan oedd yn 14 oed... Eleni, mae wedi cael ei enwebu am wobr BAFTA Cymru am yr actor gorau am ei bortread o Dylan Harris yn Craith
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Cefais ychydig o drafferth gyda'm llygaid yn ddiweddar a bu rhaid i mi fynd i'r ysbyty i gael rhywfaint o brofion. Maent bellach yn holliach ond dw i'n mawr obeithio na fydd rhaid i mi gael cotton bud pigog yn procio a chrafu gwaelod fy llygaid byth eto.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Yn aml, mi fydda i'n cofio'n sydyn fy mod wedi anghofio'n llwyr i ateb e-bost.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Yn ddiweddar, buom fel teulu'n aros mewn carafan statig ym Mwnt. Aethom i lawr i'r traeth bob diwrnod gan weld morloi a dolffiniaid a dim ond un bore o law gawsom ni. Paradwys perffaith a chystal ag unrhyw wyliau tramor.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Yn y bore bach y ganwyd ein merched ond cafodd y mab ei eni'n hwyr y nos.
Fodd bynnag, anghofia i fyth dawnsio'n hanner noeth o gwmpas y gegin ar ôl i Gymru golli yn erbyn Bosnia ym mis Hydref 2015. (Roedd buddugoliaeth Cyprus dros Israel yr un noson yn golygu fod Cymru wedi gwneud digon i gyrraedd ei phencampwriaeth pêl-droed rhyngwladol cyntaf er 1958.)

Roedd 'na lawer o ddathlu wrth glywed am fuddugoliaeth Cyprus, er gwaetha'r golled yn erbyn Bosnia
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Semi professional loner.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Dw i wedi bod â diddordeb yn y byd animeiddio ers yn ddim o beth ac hefyd yn ffan mawr o ffilmiau Wes Anderson, felly mae Fantastic Mr. Fox (a'r ffilm diweddar Isle of Dogs) yn ticio pob un o fy mocsys.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Neville Southall, Ruud Gullit, Diego Maradona a Gary Speed.

O Archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Ges i piercing botwm bol pan yn ddeunaw ond ges i lond bol ohono fo ar ôl tri mis.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dyfeisio peiriant amser.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Mae hi'n newid yn ddyddiol ac yn dibynnu sut hwyl sydd arna i. Ar y funud, dw i'n ei chael hi'n anodd peidio gwrando ar Architecture of Amnesia gan Gruff Rhys a dw i wrth fy modd yn cydganu fersiwn Peter, Paul and Mary o Freight Train gyda'm mhlant.

Er teitl y gân, mae Rhodri yn cofio ei fod o'n hoffi cân Gruff Rhys
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Prawn cocktail syml yr 80au, stecen sydd prin wedi gweld lliw y badell ffrio (efo chips fy Mam) a tiramisu rhad (dim o lol Jamie Oliver efo'i ffrwythau os gwelwch yn dda).
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Gareth Bale. Ar ôl chwarae gêm i Gymru, fyswn i'n gyrru'n syth i Goodison Park ac yn arwyddo cytundeb hir-dymor i Everton. Mwahaha.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Rhydian Dafydd (The Joy Formidable)