Heddlu'n cau gorsaf Abertawe wrth chwilio am ddyn 'peryglus'

  • Cyhoeddwyd
Steve Baxter
Disgrifiad o’r llun,

Steve Baxter - sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Steve Rowley, Wayne Tidy ac William Tidy

Cafodd gorsaf drenau Abertawe ei chau am gyfnod wrth i heddlu arfog chwilio am ddyn "peryglus" mewn cysylltiad a llofruddiaeth dyn 54 oed ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin.

Yn ddiweddarach ddydd Gwener fe wnaeth pedwar o bobl ymddangos gerbron ynadon Llanelli ar gyhuddiadau'n ymwneud â marwolaeth Simon Clark.

Clywodd ynadon fod corff Mr Clark wedi ei ddarganfod mewn maes carafanau, a'i fod wedi ei drywanu.

Fe gafodd heddlu arfog eu hanfon i'r orsaf fore Gwener ar ôl adroddiadau fod Steve Baxter, dyn y mae'r heddlu am ei holi, yn teithio ar drên.

Ond dywed Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig na chafodd unrhyw un ei arestio.

Mae'r heddlu yn awyddus i holi Mr Baxter ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Ffynhonnell y llun, Ceri Parry Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd heddlu arfog eu hanfon i'r orsaf tua 10:00 dydd Gwener

Mewn gwrandawiad ddydd Gwener clywodd ynadon fod yr heddlu wedi eu galw i faes carafanau ym Mhentywyn ac wedi dod o hyd i gorff Mr Clark.

Mae Jeffrey Stephen Ward, 40, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, tra bod Linda Mary Rowley, 52, Julie Louise Harris, 46, a Kirston Macklin, 52 wedi eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Cafodd y pedwar eu cadw yn y ddalfa a byddant yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 9 Hydref.

Sawl enw

Yn y cyfamser, dywed yr heddlu eu bod yn parhau i chwilio am Mr Baxter, gan ei ddisgrifio fel "unigolyn peryglus".

Mae Mr Baxter hefyd yn cael i adnabod fel Steve Rowley, Wayne Tidy neu William Tidy, ac mae ganddo gysylltiadau gyda gorllewin a de Cymru a de orllewin Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Simon Clark ei ganfod mewn maes carafanau

Dywed Heddlu Dyfed-Powys y dylai unrhyw un sy'n ei weld gadw draw a chysylltu â nhw ar unwaith.

Mae Mr Baxter yn 5'5" o daldra gyda thatŵs ar ei freichiau. Mae tatŵ ar ei fraich chwith yn cynnwys yr enw Chez mewn cylchoedd, tra bod tatŵ o neidr ar ei law arall.

Mae ganddo acen Sir Efrog.

Ddydd Mercher fe wnaeth yr heddlu archwilio adeiladau yng Nghastell-nedd ac ardal y Tyllgoed, Caerdydd.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: "Cafodd swyddogion eu galw i orsaf Abertawe toc cyn 10:00 yn dilyn adroddiadau fod dyn yr oedd heddlu am ei holi yn teithio ar drên.

"Fe wnaeth heddlu arfog chwilio'r ardal a chafodd yr orsaf ei chau am gyfnod.

"Ni chafodd unrhyw un ei arestio ac mae'r orsaf wedi ailagor."