Llofruddiaeth Pentywyn: Heddlu'n parhau i chwilio am ddyn

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae'r heddlu wedi bod yn chwilio mewn sawl lleoliad yn ne Cymru ddydd Mercher wrth i ymchwiliad i lofruddiaeth mewn parc carafanau ym Mhentywyn barhau.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi chwilio adeiladau yn ardal Castell-nedd a'r Tyllgoed yng Nghaerdydd wrth ymchwilio i farwolaeth Simon Clark.

Apeliodd yr heddlu am wybodaeth am Steve Baxter, sy'n 52 oed ac yn cael ei adnabod fel Steve Rowley, Wayne Tidy a William Tidy.

Cafodd corff Mr Clark ei ddarganfod mewn maes carafanau ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin, ddydd Gwener diwethaf.

Mae tri o bobl yn y ddalfa wedi iddynt gael eu harestio dros y penwythnos, a chafodd un dyn ei arestio a'i ryddhau.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu bod Steve Baxter wedi ei weld ddiwethaf yn ardal Pen-y-bont

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Jones: "Rydyn ni'n awyddus iawn i ddarganfod Steve Baxter cyn gynted â phosib gan ei fod yn cael ei ystyried yn unigolyn peryglus.

"Er ei fod yn ardal Pen-y-bont nos Wener ddiwethaf mae ganddo gysylltiadau a gorllewin Cymru, de Cymru a de orllewin Lloegr."

Ychwanegodd y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu, a pheidio mynd yn agos at y dyn.