Chwaraewr rygbi yn diolch am gefnogaeth wedi anaf

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Anafodd Mathew Parry ei wddf tra'n chwarae i dîm Pwllheli yn erbyn Bethesda fis diwethaf.

Mae chwaraewr rygbi gafodd lawdriniaeth frys ar ei gefn wedi anaf yn ystod gêm yn dweud ei fod wedi'i synnu gan y gefnogaeth y mae wedi'i dderbyn.

Anafodd Mathew Parry ei wddf tra'n chwarae i dîm Pwllheli yn erbyn Bethesda fis diwethaf.

Dyw'r sgaffaldiwr 34 oed ddim yn gwybod hyd yma a fydd modd iddo weithio eto.

Eisoes mae hyd at £6,500 wedi ei gyfrannu tuag at ymgyrch i godi arian.

Dywedodd Mr Parry: "Mae'n anghredadwy. Mae 'na gymaint o bobl garedig o gwmpas."

Mae o rŵan am rybuddio chwaraewyr eraill pa mor bwysig yw hi i fod ag yswiriant personol cyn mynd ar y cae chwarae.

'Anaf wedi gallu bod yn waeth'

Roedd Mr Parry yn chwarae yn safle'r maswr yn ystod y gêm ar 15 Medi, ac wedi 35 munud anafodd dri fertebra wrth frwydro am y bêl.

Bydd yn rhaid iddo wisgo ffrâm o gwmpas ei wddf am fisoedd ac nid yw'n gwybod eto a fydd y teimlad yn ochr chwith ei gorff yn dod yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Lynne Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr Parry lawdriniaeth chwech awr wedi'r anaf

Dywedodd ei fod yn "lwcus" wedi i arbenigwyr ddweud y gallai ei anaf wedi bod yn llawer gwaeth

"Dywedodd y llawfeddyg wrthai fy mod yn lwcus i beidio bod yn anabl.

"Felly da ni'n cymryd pethau o ddydd i ddydd. Allai'm meddwl llawer am y dyfodol."

'Methu symud'

Mae Mr Parry, sy'n dod o Dregarth, wedi bod yn chwarae rygbi ers yn fachgen ifanc ac ni feddyliodd y byddai'r gêm y mae'n ei charu gymaint wedi newid ei fywyd mewn chiwnciad.

Ychwanegodd ei fod yn gwybod fod rhywbeth o'i le, a'r unig beth oedd yn mynd drwy ei feddwl oedd "poen, jyst poen".

"Nes i drio codi syth ar ôl o, ond nes i jyst disgyn yn ôl i lawr ac o'n i methu symud."

Ffynhonnell y llun, Gareth Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mathew Parry yn chwarae i Bwllheli yn erbyn ei gyn-glwb Bethesda

Roedd ei bartner, Lynne Davies, yn dyst i'r cyfan.

Dywedodd: "Nes i ddim gweld yr anaf ond pan welais i'r doctor yn estyn am ei ffôn symudol o'n i'n gwybod bod rhywbeth difrifol wedi digwydd."

Cafodd y gêm ei hatal tra bod Mr Parry yn cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd. Aeth wedyn i uned trawma yn Stoke ar gyfer llawdriniaeth arbenigol.

Roedd dau fertebra wedi mynd o'u lle a darn o'r trydydd wedi torri - ond roedd y llawdriniaeth chwe awr yn llwyddiannus.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lynne Davies, partner Mathew Parry, fod y gefnogaeth y mae'r teulu wedi'i derbyn yn "arbennig"

Mae Mr Parry bellach yn gwella adref ond mewn poen difrifol.

"Mae o braidd yn isel gan nad ydy o'n gallu gwneud y pethau mae'n hoff o'u gwneud a dydy o ddim yn gwybod os y bydd o'n gallu eu g'neud eto," ychwanegodd Ms Davies.

'Dim yswiriant'

Nid oedd gan Mr Parry yswiriant personol, ond bellach mae'n annog chwaraewyr pob camp i gael yswiriant.

Mae'n cyfaddef nad oedd wedi ystyried cymryd yswiriant chwaith, rhywbeth sy'n ei wneud yn "flin" erbyn hyn.

"Doedd gen i ddim yswiriant personol a dwi'n cynghori unrhyw un sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon i gael yswiriant cyn mynd ar y cae."

Yn ogystal â chefnogaeth ariannol mae Mr Parry hefyd wedi derbyn negeseuon gan chwaraewyr rygbi rhyngwladol - yn eu plith Rupert Moon, Phil Davies a Jacques Burger.

Dywedodd: "Mae 'na bobl hynod garedig o'n cwmpas, 'dan ni ddim hyd yn oed yn gwybod pwy sydd wedi bod yn garedig."

Er yr anaf, ychwanegodd nad oedd wedi newid ei farn ar y gêm.

"Maen nhw [anafiadau] yn medru digwydd, ond dwi'm yn meddwl bod o'n rhy galed i fod yn onest 'efo chdi."