Adolygu trefniadau hanner marathon wedi marwolaethau
- Cyhoeddwyd
Bydd trefnwyr Hanner Marathon Caerdydd yn adolygu trefniadau'r ras ar ôl i ddau ddyn farw munudau wedi iddyn nhw gwblhau'r ras.
Fe gafodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i drin un dyn am 12:18 brynhawn dydd Sul, ac wedyn i drin yr ail ddyn 10 munud yn ddiweddarach, gyda'r ddau wedi dioddef ataliad ar y galon.
Roedd y dynion yn 25 a 32 mlwydd oed.
Ar ôl iddyn nhw gael triniaeth brys yn y fan a'r lle, cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gerllaw, lle bu farw'r ddau yn ddiweddarach.
Mae trefnwyr y ras, Run 4 Wales, wedi disgrifio'r digwyddiad fel "trychineb" ac yn dweud eu bod yn cydymdeimlo gyda theuluoedd y dynion.
Fe dreuliodd y Prif Weithredwr Matt Newman weddill dydd Sul gyda theuluoedd y ddau ddyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywedodd wrth raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales fore Llun: "Roedd ddoe yn ddiwrnod ofnadwy, i'r teuluoedd ac i ni fel trefnwyr.
"Mae paratoadau a threfniadau ar gyfer digwyddiad fel hyn yn cymryd 12 mis ac mae ein cynllun meddygol, sy'n cael ei arwain gan ein cyfarwyddwr meddygol, wedi cael ei adolygu a'i wella bob blwyddyn."
Ychwanegodd: "Ar gyfer pob blwyddyn mae gyda ni dîm o 10 o feddygon yn eu lle; mae ganddon ni dimau meddygol wedi eu lleoli ar hyd y cwrs ei hun achos mae modd i bethau ddigwydd yn unrhyw fan ar hyd y llwybr.
"Felly mae cynllun eang yn ei le er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu mynd i'r afael ac unrhyw ddigwyddiad. Ond yn amlwg dyma ydy'r tro cynta' rydyn ni wedi gorfod ymateb i ddigwyddiadau o'r natur yma."
Fe gadarnhaodd Mr Newman y byddan nhw nawr yn adolygu trefniadau'r ras gyda'r cyfarwyddwr meddygol, fel sy'n arferol ar ôl anaf ddifrifol neu farwolaeth.
"Rwy'n hollol ffyddiog na allai'r tîm meddygol na'r swyddogion yn Run 4 Wales wedi gallu gwneud mwy. Ond ry' ni'n adolygu'r digwyddiad bob blwyddyn.
"Ry' ni'n adolygu'r adroddiad meddygol sy'n cael ei gynhyrchu gan y cyfarwyddwr meddygol bob blwyddyn; rydyn ni hefyd yn cyfri' nifer y bobl aeth i chwilio am gymorth meddygol.
"Ry' ni wedyn yn edrych a oes mwy allen ni ei wneud, ond rydyn ni'n hollol ffyddiog ein bod ni fel trefnwyr wedi sicrhau fod digon o bobl meddygol profiadol gyda ni ddoe. Roedd 'na feddygon yn trin y ddau o fewn eiliadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2018