Dewi Griffiths yn nawfed yn Hanner Marathon Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Hanner Marathon CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Fairclough

Fe wnaeth y Cymro Dewi Griffiths orffen yn y nawfed safle wrth iddo ddychwelyd i rasio yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul.

Griffiths oedd y Cymro cyntaf i orffen yn ras elît y dynion mewn amser o 1:02.54, wedi i anaf ei gadw allan o Gemau'r Gymanwlad.

Jack Rayner o Awstralia enillodd ras y dynion, gan groesi'r llinell derfyn mewn amser o 1:00.59.

Juliet Chekwell enillodd ras y merched mewn amser o 01:09.45, tra mai Tiaan Bosch o Loegr enillodd ras cadair olwyn y dynion.

25,000 o redwyr

Roedd 25,000 yn rhedeg y brif ras yn nigwyddiad chwaraeon torfol mwyaf Cymru, a dyma'r 15fed tro iddi gael ei chynnal.

Yn ogystal â'r rhedwyr, bu tua 80,000 o gefnogwyr ar strydoedd y brifddinas, lle roedd dros 20 o ffyrdd ynghau ar gyfer y digwyddiad.

Daw wrth i ymchwil gan Brifysgol Caerdydd awgrymu bod cystadleuwyr yn gwario dros £2m yn y ddinas dros y penwythnos.

Yn ogystal â bod yn ddigwyddiad elusennol mwyaf Cymru, roedd athletwyr o 18 gwlad yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Hanner Marathon y Gymanwlad am y tro cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Jack Rayner o Awstralia enillodd ras y dynion

Roedd y Cymro Dewi Griffiths hefyd yn gobeithio am berfformiad da arall eleni, ar ôl rhedeg ei amser gorau dros hanner marathon y llynedd - 1:01.33 - a gorffen yn bedwerydd.

Er iddo fethu llawer o'r tymor rasio eleni drwy anaf, dywedodd y rhedwr bod Hanner Marathon Caerdydd yn un mae'n "edrych ymlaen at ddod 'nôl ati bob tro".

"Roedd hi'n wych i Gaerdydd ac roedd cymhelliant ychwanegol yno wrth gystadlu mewn lliwiau cenedlaethol a chynrychioli eich gwlad," meddai ar ôl gorffen ddydd Sul.

"Ro'n i mor flinedig ar un pwynt, ond dydych chi ddim yn gallu gadael Cymru i lawr.

"Byddwn wedi mwynhau bod ychydig yn fwy cystadleuol allan ar y cwrs, ond mae'n wych i Gaerdydd i gael y fath ras beth bynnag."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dewi Griffiths golli allan ar le yng Ngemau'r Gymanwlad oherwydd anaf

Hanner Marathon Caerdydd

  • 25,000 o redwyr;

  • Tua 28,000 cam i gwblhau'r cwrs 13.1 milltir;

  • 115,000 o boteli dŵr, 20,000 banana a 18,000 gel egni;

  • 800 o wirfoddolwyr;

  • Dros 20 o ffyrdd ynghau yn y brifddinas.

Eto eleni roedd y ras yn dechrau y tu allan i Gastell Caerdydd cyn mynd heibio Stadiwm Dinas Caerdydd ar y ffordd i Benarth a dros y morglawdd i'r bae.

Yna roedd y rhedwyr yn anelu'n ôl tua'r ddinas cyn troi at Y Rhath ac yna Cathays i orffen ger Neuadd y Ddinas.

Roedd rhai o athletwyr gorau'r byd yn rhedeg y ras eto eleni, gan gynnwys John Lotiang ac Edith Chelimo o Kenya - wnaeth osod recordiau'r dynion a'r menywod i'r cwrs y llynedd.

Cyfyngiadau i deithwyr

Roedd Caerdydd yn brysur iawn dros y penwythnos a bydd llawer o ffyrdd canol y ddinas ynghau trwy gydol y diwrnod.

Mae'r rhain yn cynnwys Heol y Gogledd, Ffordd y Brenin, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen a Heol Column.

Am yr holl fanylion am y trefniadau teithio ewch i wefan Cyngor Caerdydd, dolen allanol.