Heddlu'n apelio am wybodaeth wedi graffiti Pentre Ifan

  • Cyhoeddwyd
Heddlu'n archwilio graffiti Pentre Ifan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd lluniau o graffiti ar siambr gladdu Pentre Ifan eu rhannu gan dîm troseddau cefn gwlad Heddlu Dyfed-Powys dros y penwythnos

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un ag unrhyw wybodaeth ynglŷn â graffiti sydd wedi ymddangos ar gerrig siambr gladdu Pentre Ifan i gysylltu â nhw.

Rhannodd tîm troseddau cefn gwlad Heddlu Dyfed-Powys y llun ar eu cyfrif trydar dros y penwythnos.

Yn ôl swyddog o'r tîm, mae peryg y gall y graffiti a'r broses o'i lanhau "achosi difrod sylweddol i'r cen sy'n tyfu ar y cerrig".

Ymddangosodd achos tebyg o graffiti ar fynydd Tryfan dros y penwythnos, a bydd arbenigwyr wrthi'n asesu sut orau i lanhau'r graffiti heb niweidio'r cerrig na'r cen.

Graffiti'n 'annerbyniol'

Cafodd lluniau o Bentre Ifan eu rhannu gan dîm troseddau cefn gwlad Heddlu Dyfed-Powys ddydd Gwener ddiwethaf.

Dywedodd Esther Davies, un o swyddogion y tîm, eu bod "wedi eu tristáu o weld y fandaliaeth i siambr gladdu Pentre Ifan".

"Dyma un o'r safleoedd cyn-hanesyddol enwocaf yng Nghymru ac mae'n annerbyniol bod rhywun wedi ystyried gwneud hyn," meddai.

"Nid yn unig bod y fandaliaid wedi niweidio'r gofeb, ond maen nhw wedi achosi difrod sylweddol i'r cen sy'n tyfu ar y cerrig."

Disgrifiad,

Graffiti Pentre Ifan yn destun "pryder"

Mae'r siambr gladdu dan ofal Cadw, a nhw fydd yn gyfrifol am lanhau'r paent.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.

Asesu difrod Tryfan

Dros yr wythnosau nesaf, bydd arbenigwyr ac ecolegwyr hefyd yn asesu'r difrod ar fynydd Tryfan.

Yn ôl ceidwad Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr ardal, Simon Rogers, rhaid bod yn ofalus wrth lanhau'r paent, "rhag ofn ein bod yn achosi unrhyw niwed".

Serch hynny, dywedodd Mr Rogers bod rhywun eisoes wedi rhoi cynnig ar olchi'r sloganau - sy'n cynnwys y dyddiad "1.10.18" ac enw tîm pêl-droed o Wlad Pwyl, "Widzew Łódź".

Dywedodd Mr Rogers bod fandaliaeth o'r fath yn "sbwylio mwynhad pobl o fyd natur", ac mae'n cynghori plant a phobl sy'n ymweld â'r ardal i "gymryd dim byd ond ffotograffau, ac i adael dim byd ond olion traed ar eu hôl".