Eluned Morgan i lansio'i hymgyrch i arwain Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan

Bydd Eluned Morgan yn lansio ei hymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru yn nes ymlaen ddydd Iau.

Dywedodd AC Canolbarth a Gorllewin Cymru fod angen "newid deinamig" y blaid Lafur a'r Cynulliad.

Ychwanegodd ei bod eisiau mynd "tu hwnt i fybl Bae Caerdydd", gan ddisgrifio'i hun fel "ymgeisydd sosialaidd ar gyfer yr oes ddigidol".

Fe wnaeth Vaughan Gething a Mark Drakeford lansio eu hymgyrchoedd hwythau yn gynharach yn yr wythnos.

'Tu hwnt i'r bybl'

Llwyddodd Ms Morgan i gael digon o enwebiadau i gymryd rhan yn yr ornest wedi i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ei chefnogi.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn awyddus i weld enw dynes ar y papur pleidleisio fel rhan o'r broses i ddewis ei olynydd.

Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Ms Morgan bod angen "newid deinamig" yn wyneb "heriau lu" fel Brexit, poblogaeth yn heneiddio a chynaladwyedd y wlad.

Dywedodd y byddai bod yn fenyw yn "gynnig gwahanol", ond bod ganddi fwy i'w gynnig "yn hytrach na jyst bod yn fenyw".

"Tynnu Cymru mas o dlodi - dyna fydde fy ngobaith cynta' i, a'r ffaith yw bod gen i lot o brofiad nid jyst yn Senedd Ewrop, nid jyst y cysylltiadau sydd gen i o Dŷ'r Arglwyddi... Ond hefyd ym myd diwydiant, mae gen i ddealltwriaeth o sut mae newid hyn."

Datganiad Saesneg yn gamgymeriad?

Er bod Ms Morgan yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, gwadodd ei fod yn gamgymeriad i yrru datganiad i'r wasg ynglŷn â'i harweinyddiaeth yn uniaith Saesneg.

Dywedodd ei bod wedi gwneud "lot o waith" i sicrhau bod ei gwefan yn Gymraeg, ac wedi siarad â nifer o bobl dros y wlad yn Gymraeg fel rhan o'r ymgyrch.

"Does neb arall yn y blaid Lafur wedi rhoi cymaint o frwdfrydedd, wedi rhoi cymaint o bwyslais ar yr iaith Gymraeg dros y blynyddoedd na fi."

Yn trafod Brexit, dywedodd Ms Morgan ei bod yn gobeithio am refferendwm arall gan fod pobl yn "sylweddoli'r effaith andwyol dros ben fydd ar y wlad" heb gytundeb Brexit.

Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford a Vaughan Gething yw'r ddau fydd yn herio Ms Morgan

Dywedodd Ms Morgan y byddai ei hymgyrch yn canolbwyntio'n bennaf ar dyfu'r economi er mwyn cynhyrchu cyfoeth i gynnal gwasanaethau cyhoeddus.

"Dwi'n fwriadol wedi mynd y tu hwnt i fybl Bae Caerdydd ac i seddi ble mae'n rhaid i Lafur ennill os ydyn ni eisiau mwyafrif Llafur yn y Cynulliad."

"Mae'n rhaid i Lafur edrych yn wahanol, swnio'n wahanol, a bod yn wahanol os yw'r blaid am gadw grym," meddai ei hymgyrch.

Ddydd Llun fe wnaeth Vaughan Gething gyhoeddi sawl polisi - gan gynnwys Gwasanaeth Gofal Gwladol a phrydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau - yn ei lansiad yn Nantgarw.

Wrth lansio'i ymgyrch yntau dywedodd Mark Drakeford ei fod yn "sosialydd o'r 21ain Ganrif", gan bwysleisio'i gysylltiadau gyda'r diweddar gyn-brif weinidog, Rhodri Morgan, ac arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn.

Bwriad Mr Jones yw ymddiswyddo ar 11 Rhagfyr, gyda'i olynydd yn cymryd yr awenau'r diwrnod canlynol.