Cynllun yn annog mwy o bobl i fabwysiadu plant

  • Cyhoeddwyd
Mike and Tony in a bedroom decorated for a young boyFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Mabwysiadu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mike a Tony yn gobeithio mabwysiadu bachgen pedair oed

Mae un o bob pum plentyn sydd angen cael eu mabwysiadu yng Nghymru wedi bod yn aros dros flwyddyn am gartref, medd y corff sy'n gyfrifol am adolygu'r broses.

Dywed y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol bod angen i fwy o rieni posib gynnig cymorth.

Mae un cwpwl sy'n ystyried mabwysiadu yn dweud: "Peidiwch ag ofni cwestiynau - gofynnwch a siaradwch am y peth."

Mae Mike a Tony yn gobeithio mabwysiadu plentyn pedair oed ar ôl dod yn rhan o gynllun o'r enw Mabwysiadu gyda'n Gilydd.

Yn ôl y Gwasanaeth Mabwysiadu, dyma'r prosiect cyntaf o'i fath yn y DU a'r nod yw targedu yn well deuluoedd addas ar draws Cymru - yn enwedig rhieni i blant sydd wedi bod yn aros am gartref am amser hir.

Mae'n anelu at gael pobl nad oedd yn wreiddiol wedi ystyried mabwysiadu i wneud hynny.

Mae'r cynllun yn cynnwys gwybodaeth fanwl am gefnogaeth cyn ac wedi'r broses o fabwysiadu.

Mae modd cael mynediad iddo ar draws Cymru, drwy asiantaethau mabwysiadu fel Cymdeithas Blant Dewi Sant a Barnardo's ac mae'n cael ei werthuso a'i gefnogi gan Brifysgol Caerdydd.

'Dod i adnabod y plentyn'

Cyfarfod a gafodd ei drefnu gan Gymdeithas Blant Dewi Sant a ysgogodd Mike a Tony i wneud y penderfyniad i fabwysiadu.

Dywedodd Mike: "Roedd yn ffordd i ddod i wybod mwy am y plentyn. Nid darllen am y plentyn ry'ch chi ond siarad â rhywun sydd wedi cwrdd â'r plentyn ac sydd wedi gofalu amdano.

"Mae modd gwybod wedyn beth sy'n ei ddifyrru, beth yw hoff fwyd y plentyn a be' mae e' fel peth cyntaf yn y bore.

"Mae'r broses yn creu llun o'r plentyn yn eich pen cyn i chi ei gyfarfod ac mae gennych syniad o'i anghenion."

Bydd Mike a Tony, sydd wedi bod mewn perthynas am 14 mlynedd, yn cael gwybod cyn hir a ydyn nhw'n addas i fod yn rieni mabwysiedig i blentyn.

Mae Mike yn annog oedolion eraill sy'n credu eu bod yn addas i fabwysiadu, i gysylltu â Mabwysiadu Gyda'n Gilydd.

Ychwanegodd: "Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau a chael gwybodaeth. Mae modd i chi ddod i benderfyniad heb bwysau."