Eluned Morgan o blaid cyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r ymgeiswyr i olynu Carwyn Jones fel arweinydd Llafur Cymru wedi cefnogi'r syniad o gyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru.
Dywedodd Eluned Morgan y byddai hi o blaid treialu'r syniad, ble mae pawb yn derbyn arian dim ots pa mor gyfoethog ydyn nhw.
Ond fe gyfaddefodd y byddai'n "anodd tu hwnt" i'w gyflwyno heb gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU.
Mae un o'r ymgeiswyr sy'n ei herio am yr arweinyddiaeth, Vaughan Gething, wedi beirniadu'r syniad.
'Cyfnodau heb waith'
Mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn gynllun sydd eisoes yn cael ei brofi yn Y Ffindir, ac mae bwriad gwneud yr un beth mewn rhannau o'r Alban.
Fel rhan o'r cynllun mae swm o arian yn cael ei dalu i ddinasyddion os oes ganddyn nhw swydd neu beidio, waeth faint o arian maen nhw'n ei ennill.
Byddai treth incwm dal yn gorfod cael ei dalu ar unrhyw gyflog arall maen nhw'n ei dderbyn.
Dywedodd Ms Morgan, Gweinidog y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru: "Mae swyddi'n mynd yn bethau mwy bregus wrth i beiriannau, digideiddio ac awtomeiddio gymryd lle swyddi sydd yn cynnwys gwaith ailadroddus.
"Mae cyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn gydnabyddiaeth ein bod ni i gyd yn debygol o wynebu sefyllfa o gyfnodau heb waith.
"Er y byddai'n anodd tu hwnt ei gyflwyno yng Nghymru heb gymorth ariannol gan Adran Waith a Phensiynau'r DU, fe fyddwn ni'n cynnig cymuned yng Nghymru fel rhywle ble bydden ni'n hoffi gweld hyn yn cael ei brofi."
Y llynedd fe wnaeth un arall o'r ymgeiswyr, Mark Drakeford, ddweud bod y syniad yn un "deniadol" ond y byddai gan wleidyddion "waith" yn argyhoeddi'r cyhoedd.
'Ddim yn berthnasol'
Yn 2016 fe wnaeth melin drafod yr RSA awgrymu Incwm Sylfaenol Cyffredinol o £3,692 i bobl rhwng 25 a 65, gan ddefnyddio data ar gyfer trethi a budd-daliadau o 2012-13.
Ond dyw budd-daliadau ddim wedi'u datganoli i Fae Caerdydd, felly byddai unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i dreialu'r cynllun yn golygu gorfod trosglwyddo pwerau ychwanegol o San Steffan.
Mae arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn a'i ganghellor cysgodol John McDonnell ill dau wedi awgrymu y gallai'r blaid fabwysiadu'r polisi.
Yn ôl y rheiny sydd o blaid y syniad, byddai Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn cael gwared ar y stigma o hawlio budd-daliadau, gan fod pawb yn derbyn yr un faint.
Gallai hefyd sicrhau nad oes ergyd ariannol i bobl os ydyn nhw wedyn yn cael swydd, gan na fyddai'r budd-dal yn gostwng os yw pobl yn dechrau ennill incwm ychwanegol.
Ond dywedodd Mr Gething: "Dylai unrhyw un sy'n meddwl bod hyn yn syniad da gnocio ar ddrysau pleidleiswyr Llafur sydd yn dod o deuluoedd gweithiol.
"Efallai ei fod yn swnio'n radical i academyddion a meddylwyr polisi, ond dyw e ddim yn berthnasol os ydych chi'n gofyn i bobl normal.
"Mae angen canolbwyntio ar greu rhagor o swyddi a swyddi gwell sy'n talu'r cyflog byw."
Dywedodd Mr Drakeford: "Fe fydda i'n lansio fy mholisïau ar gyfer cymdeithas decach yng Nghymru yn y man, cyn i bapurau pleidleisio fynd allan i aelodau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018