Darpariaeth arbennig i gefnogwyr awtistig CPD Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Spencer Harris
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyfarwyddwr CPD Wrecsam, Spencer Harris yn credu mai CPD Wrecsam yw'r unig un ym Mhrydain i gynnig y fath ddarpariaeth

Ers dechrau'r tymor newydd mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi bod yn cynnig darpariaeth ar gyfer cefnogwyr sy'n byw gydag awtistiaeth.

Yn ôl y cyfarwyddwr, Spencer Harris mae'r clwb yn cynnig parcio agosach, drws preifat i'r cefnogwyr ac ardal arbennig mewn rhan dawelach o'r stadiwm.

Hefyd mae ystafell ar wahân rhag ofn bod yr unigolyn angen gadael y gêm, offer amddiffyn y clustiau ar gyfer y sain a thoiledau ar wahân.

Gan fod awtistiaeth yn gyflwr sy'n amrywio ond gan amlaf yn effeithio'r synhwyrau, mae'r clwb wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y rhai sy'n mynychu'r gemau yn teimlo'n gyfforddus.

Cyntaf ym Mhrydain?

Mae gan y clwb swyddog anableddau, Kerry Evans, sy'n sicrhau fod trefniadau yn eu lle ac mai'r un stiward sy'n croesawu'r criw bob tro.

Yn ôl Mr Harris, cyn belled ei fod o'n ymwybodol, CPD Wrecsam yw'r unig glwb ym Mhrydain i gynnig y fath ddarpariaeth.

Dywedodd Mr Harris: "Mae'n bwysig iawn, oherwydd mae pobl hefo awtistiaeth, maen nhw'n bobl, ond yn bobl hefo mwy o sialens yn eu bywyd na phobl eraill.

"Mae'n bwysig i bawb 'neud rhywbeth amdanyn nhw, a'u rhieni nhw a rhoi outlet iddyn nhw ddod, rhywbeth iddyn nhw gefnogi a theimlo fel rhan o gymdeithas..." meddai.

Mae Elin Llwyd Morgan, sydd â mab sydd hefo'r cyflwr, yn credu fod darpariaeth y clwb yn "beth gwych".

"Mae'r galw yna'n amlwg a dwi'n meddwl bod o'n beth gwych bod pobl yn sylweddoli bod yna anableddau anweledig yn ogystal â rhai corfforol.

"Roeddwn i'n arfer meddwl dwywaith am fynd i lefydd cyhoeddus a dydych chi byth yn gwybod be' sy'n mynd i darfu arnyn nhw, doedd o ddim yn rhywbeth hawdd."