Fi, Meic a'r her nesa'

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actor Gareth Lewis, sy' fwya' adnabyddus am chwarae rhan y cymeriad eiconig Meic Pierce ar Pobol y Cwm, wedi cyhoeddi ei hunangofiant, Hogyn o'r Felin (Gwasg Gomer).

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gydag ef am ei yrfa fel actor, a'r rheswm iddo adael Pobol y Cwm y llynedd wedi deugain mlynedd ar y sgrin fach.

Mae Gareth Lewis wedi byw gyda chyflwr sy'n effeithio ar ei olwg ers ei fod yn ei ugeiniau. Tan yn ddiweddar roedd hyn yn rhywbeth personol, ond wrth ysgrifennu am ei fywyd mae'r actor wedi penderfynu trafod y cyflwr yn agored.

"Mae'n beth anodd i dderbyn rhywsut, dy fod yn mynd yn gyhoeddus gyda diffyg gweld. O'n i'n ei ffeindio fo'n anodd ta beth. Mae o fel taset ti'n cyfadde bod rhywbeth yn bod arno ti, ond unwaith rwyt ti'n dod i'r arfer ag o, mae'n iawn.

"Mi ddechreuodd y broblem pan o'n i'n 23 oed, ges i Optic Neuritis, sef llid ar y nerfau sy'n mynd â'r neges o'r llygad i'r ymennydd. Mi gollais fy ngolwg mewn un llygad yn gyfan gwbwl am rhyw wythnos, ac mi ddaeth yn ei ôl wedyn. Dwi wedi cael sawl enghraifft o hynny yn digwydd i fi dros y blynyddoedd, yn y ddwy lygad," meddai.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae golwg Gareth Lewis wedi dirywio ymhellach meddai, ac erbyn hyn mae wedi ei gofrestru'n rhannol ddall.

"Mae'r golwg mor sâl erbyn hyn, dwi'n gorfod defnyddio ffon wen o bryd i'w gilydd, pan dwi'n mynd i lefydd diarth. Pan ai i'r dre' ambell dro wnâi ei defnyddio hi achos mae'n arwydd i bobl eraill. Dwi ddim angen y ffon wen i mi fy hun, ond mae'n arwydd i bobl eraill bod 'na rhywun sydd ddim yn gweld yn dda yn dod i'w cyfeiriad nhw. Mae o'n 'neud gwahaniaeth mawr.

"Dwi wedi rhoi fy enw 'mlaen i gael ci tywys a maen nhw wedi dweud fy mod yn addas, felly dwi'n disgwyl i hynny ddigwydd."

Amser i adael

Erbyn diwedd ei gyfnod gyda'r BBC, mi roedd yn anodd i Gareth Lewis ddarllen sgriptiau, ac er gwaetha'r ffaith fod pawb yn y gwaith yn "garedig dros ben" gydag o, mi benderfynodd, ag yntau wedi bod yn chwarae rhan y cymeriad hoffus Meic Pierce ers bron i ddeugain mlynedd, ei bod hi'n bryd gadael.

"Mi o'n i'n gorfod cael sgriptiau wedi eu gwneud yn fwy ac erbyn y diwedd do'n i'n methu darllen rheiny hefyd. Mi oedd pobl yn y stiwdio yn ofalus iawn ohona fi, mae'n rhaid i fi ddweud, oedd pobl yn ymwybodol nad oeddwn i'n gallu gweld yn dda ac yn ofalus i beidio cael ceblau ar y llawr ac yn y blaen.

"Petai fy ngolwg i a fy malans i dal i fod gennai, a taswn i ddim wedi cael y mini stroke, byswn i wedi para ymlaen. Ond o'n i'n meddwl bod fy nghorff yn trio dweud fy mod wedi cael digon."

Hogyn o'r Felin

Ers gadael y gyfres, mae Gareth Lewis, sy'n wreiddiol o'r Felinheli, wedi bod yn cofnodi straeon am ei blentyndod, ei deulu a 55 mlynedd o yrfa actio, yn ei hunangofiant Hogyn o'r Felin sy'n cael ei lansio yn ei dref enedigol ar Hydref 13eg.

"Ar ôl i mi orffen ar Pobol Y Cwm fe wnes i ddechre sgwennu am y teulu achos o'n i eisiau rhywbeth i lenwi'r diwrnod. Nid ysgrifennu llyfr oedd y bwriad i ddechrau, ond er mwyn i fy mhlant ac wyrion i wybod o lle oedden nhw'n dod, fel petai. Mi dyfodd yn ara' deg ac mi wnaeth rhywun o wasg Gomer ofyn i mi os oeddwn i'n bwriadu paratoi hunangofiant, a dyna pryd feddylies i am greu llyfr."

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Lewis gyda'i gyd-actorion Emyr Wyn a Nia Caron. Derbyniodd Pobol y Cwm, a ddathlodd ddeugain mlynedd yn Hydref 2014, wobr arbennig BAFTA.

Mae Gareth Lewis yn un o'r actorion sydd wedi bod mewn opera sebon gyda'r hiraf ym Mhrydain, ond "lwc" a "chymeriad da" sydd i gyfri am hynny, meddai.

"Mae cymeriad da yn cynnig ei hun i wahanol fath o straeon a dyna ddigwyddodd yn hanes Meic. Roedd pobl yn ei ffeindio hi'n hawdd i ddod o hyd i straeon i Meic.

Cyfnod hapus

"Fe ddechreuais i pan o'n i'n 13 oed ym Mangor ar y radio. R'on i'n actio'n llawn amser erbyn i mi gychwyn ar Pobol y Cwm ac mi oedd o'n gyfnod hynod o hapus. Mi r'on i'n gyfarwydd â nifer o'r actorion, fel Dic Huws, Charles Williams, Dillwyn Owen a'r criw yna.

Disgrifiad o’r llun,

Meic Pierce gyda Jacob Ellis (Dillwyn Owen) yn 1994

Wedi saib o rhyw dair neu bedair blynedd, pan fu Gareth Lewis yn ysgrifennu i'r gyfres yn hytrach nag actio o flaen y camera, erbyn iddo ddychwelyd i'r sgrin yn 1999 roedd cymeriad Meic Pierce wedi symud ymlaen. Roedd ei berthynas ef ag Anita, sy'n cael ei chwarae gan Nia Caron, wedi datblygu, a'r ddau actor yn ffrindiau agos. Roedd ffarwelio â hi ar ddiwrnod ola'r ffilmio, wedi cymaint o flynyddoedd o gyd-weithio yn brofiad anodd, meddai.

"Dwi'n cofio'r diwrnod olaf. Ro'n ni'n gwybod fy mod i'n gadael ac roeddan ni'n ffilmio ym maes awyr Y Rhws. Roedd Nia Caron a finna'n gwybod mai dyma'r olygfa olaf gyda'n gilydd ac mi oedd yn rhaid i ni grio yn y sgript. Nid dagrau ffals oedd rheiny ond dagrau go iawn. Roedd yn brofiad dirdynnol iawn."

Cafodd Hogyn o'r Felin ei gyhoeddi gan Gwasg Gomer ym mis Medi 2016