Llywodraeth y DU yn 'niweidio' gwaith taclo tlodi plant

  • Cyhoeddwyd
tlodi plantFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae ymdrechion i daclo tlodi plant ac incymau isel yng Nghymru'n cael eu "niweidio" gan newidiadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau a threthi, yn ôl adroddiad.

Yn ôl amcangyfrifon yn yr adroddiad, gallai 50,000 yn fwy o blant yng Nghymru fod yn byw mewn tlodi ymhen tair blynedd.

Fe wnaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) edrych ar effaith bosib y newidiadau ers 2010.

Rhybuddiodd Gweinidog Plant Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies y gallai arwain at "galedi sylweddol".

'Effaith llai yng Nghymru'

"Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru i daclo tlodi plant a gwella bywydau teuluoedd incwm isel yn cael ei niweidio gan becyn diwygiadau lles a threthi Llywodraeth y DU," meddai'r adroddiad.

"Yn benodol, newidiadau i'r system fudd-daliadau fel rhewi'r cyfraddau budd-dal oedran gweithio, newidiadau i fudd-daliadau anabledd, a lleihau cyfraddau Credyd Cynhwysol."

Fe wnaeth adroddiad EHRC edrych ar ddata Prydeinig o'r Arolwg Adnoddau Teulu a'r Arolwg Bwyd a Chostau Byw, gyda'r dadansoddi'n cael ei wneud gan Landman Economics ac Aubergine Analysis.

Ffynhonnell y llun, PA

Yn ôl eu rhagdybiaethau:

  • Bydd cartrefi yng Nghymru ag o leiaf tri o blant yn colli dros £900 y flwyddyn ar gyfartaledd erbyn 2021-22, oherwydd y terfyn dau blentyn gafodd ei osod ar nifer o fudd-daliadau yn 2017;

  • Gallai 20,000 yn fwy o gartrefi - a 50,000 yn fwy o blant yng Nghymru - fod mewn tlodi cymharol yn dilyn y diwygiadau;

  • Maen nhw'n rhagweld y bydd tlodi plant yn cynyddu o tua 8% yng Nghymru a'r Alban, o'i gymharu â bron i 11% yn Lloegr;

  • Y rheiny yn y grŵp incwm ail tlotaf sydd wedi'u taro waethaf, gydag awgrym y gallai cartrefi yng Nghymru golli dros £1,000 y flwyddyn.

Bydd teuluoedd tlotach yn Lloegr yn colli mwy na'r rheiny yng Nghymru a'r Alban, meddai'r adroddiad, gan fod llywodraethau Cymru a'r Alban wedi cyflwyno polisïau i geisio lleihau effaith y toriadau i fudd-daliadau a chredydau treth.

Mae'r ddwy lywodraeth hefyd wedi cyflwyno mesurau i helpu pobl ar incymau isel ymdopi gyda'r gostyngiad mewn cymorth treth cyngor.

Rheswm arall yw bod rhent yn tueddu i fod yn uwch yn Lloegr, ac felly mae'r cyfyngiadau ar fudd-daliadau tai wedi cael effaith fwy yno.

'Gor-ddweud'

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y bydd pobl anabl a rhieni sengl yng Nghymru yn cael eu heffeithio fwy, ac ar draws y DU bydd rhieni sengl yn gweld cwymp o 29% y flwyddyn yn eu hincwm erbyn 2021-22.

Ar hyn o bryd y gred yw bod tua 200,000 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi addo diddymu tlodi plant erbyn 2020, ond fe wnaethon nhw gyfaddef yn 2016 na fyddai hynny'n bosib.

"Rydyn ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau brys mewn perthynas â'r polisïau hyn, fydd yn achosi caledi sylweddol," meddai Mr Irranca-Davies.

"Mae'n hanfodol fod y polisïau yma'n cael eu hadolygu ar frys a bod asesiadau effaith cydraddoldeb yn cael eu cynnal er mwyn diogelu lles y rheiny sydd fwyaf bregus."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Irranca-Davies y gallai polisïau Llywodraeth y DU arwain at "galedi sylweddol"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer y plant sydd yn byw mewn tlodi go iawn yng Nghymru wedi gostwng o 100,000 dros y saith mlynedd diwethaf.

"Rydyn ni'n gwybod fod mwy i'w wneud er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y siawns orau mewn bywyd, ac mae ein diwygiadau lles yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i rieni er mwyn eu helpu i gael gwaith, sef y ffordd orau allan o dlodi.

Rydyn ni'n gwario £90 biliwn y flwyddyn ar les i gynorthwyo'r rheiny sydd ei angen fwyaf a dyw'r adroddiad yma ddim yn ystyried llawer o'r newidiadau pwysig mae'r llywodraeth wedi'u cyflwyno ers 2010.

"Mae EHRC eu hunain yn cydnabod yn eu hadroddiad fod effaith rhai polisïau wedi cael ei or-ddweud, a byddai hynny'n arwain at flaenamcan uwch o dlodi."