'Ddylai ACau ddim cael cyflogi aelodau teulu mwyach'

  • Cyhoeddwyd
Senedd

Dylai ACau gael eu gwahardd rhag cyflogi aelodau o'u teulu o'r pwrs cyhoeddus ar ôl yr etholiad Cynulliad nesaf, yn ôl y panel sy'n penderfynu ar eu cyflogau.

Dywedodd y Bwrdd Taliadau annibynnol y byddai'r polisi newydd yn golygu bod cysondeb rhwng y Cynulliad a deddfwriaethau eraill.

Byddai hefyd yn gwella ymddiriedaeth y cyhoedd yn y Cynulliad, meddai'r bwrdd.

Ar hyn o bryd mae 14 o ACau yn cyflogi aelodau o'u teulu gydag arian cyhoeddus.

Ymgynghori

Dywedodd cadeirydd yr adroddiad, y cyn-AS Llafur Dawn Primarolo y dylai cyflogaeth staff yn y Cynulliad fod yn "agored, tryloyw ac annog pobl o bob cefndir i weithio" yn y sefydliad.

"O gofio'r egwyddorion yma, rydyn ni'n cynnig tynnu'r cyllid i ffwrdd o Aelodau Cynulliad ar gyfer cyflogi aelodau eu teulu," meddai.

Mae'r adroddiad yn dweud y dylai unrhyw AC sydd eisiau cyflogi aelod o'u teulu ar ôl Ebrill 2021 "dalu am y swyddi hynny o'u cyllid eu hunain".

Maen nhw hefyd yn dweud y dylai unrhyw aelodau teulu sy'n cael eu cyflogi neu ddyrchafu ar ôl 24 Hydref ddim cael eu hariannu o'r pwrs cyhoeddus ar ôl 31 Mawrth 2019.

Ar hyn o bryd mae 14 Aelod Cynulliad sydd rhyngddyn nhw yn cyflogi 17 aelod o staff sydd un ai yn aelod o'r teulu neu'n bartner.

Mae'r holl ACau a'u staff yn cael eu hymgynghori ar y mater, ac mae ganddyn nhw nes fis Rhagfyr i roi eu barn i'r Bwrdd Taliadau.

Cafodd gwaharddiad tebyg ar beidio cyflogi aelodau o'r teulu ei gyflwyno yn Senedd yr Alban yn 2015.

Yn San Steffan dyw ASau gafodd eu hethol am y tro cyntaf yn 2017 ddim chwaith yn cael cyflogi partneriaid nac aelodau o'r teulu gydag arian cyhoeddus.

Ond mae ASau gafodd eu hailethol yn 2017 yn cael parhau i gyflogi staff "sy'n gysylltiedig".