Yr Ysgwrn yn cael statws amgueddfa

  • Cyhoeddwyd
Yr YsgwrnFfynhonnell y llun, Andrew Lee

Mae cartref y bardd Hedd Wyn wedi sicrhau statws amgueddfa.

Cafodd fferm Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd ei phrynu a'i diogelu i'r genedl yn 2012 gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'i hailagor fel canolfan treftadaeth yn 2017 wedi gwaith adnewyddu sylweddol.

Daeth cadarnhad ynghylch y statws newydd wrth i'r Gweinidog Twristiaeth, Diwylliant a Chwaraeon, Arglwydd Elis-Thomas AC lansio Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn Yr Ysgwrn.

"Rydym yn hynod ffodus yng Nghymru bod gennym gyfoeth o amgueddfeydd sydd yn llawn gydag eitemau hynod o ddiddorol," dywedodd, "o amgueddfeydd awyr agored ac amgueddfeydd byw fel Yr Ysgwrn, sydd bellach yn ardystiedig, i amgueddfeydd hynod arbenigol a chasgliadau lleol gwych."

Ffynhonnell y llun, Andrew Lee

Dywedodd Sian Griffiths o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod Yr Ysgwrn "yn Amgueddfa o arwyddocâd rhyngwladol" a bod y safle "wedi cael un mis ar bymtheg rhyfeddol ers ail-agor i'r cyhoedd ym mis Mehefin 2017".

Ychwanegodd eu bod "yn falch iawn bod panel achredu wedi cydnabod bod ymdrechion staff, gwirfoddolwyr ac awdurdod y Parc Cenedlaethol i gyflawni'r arferion gorau mewn llywodraethu, gofalu am gasgliadau a phrofiad ymwelwyr o ansawdd cenedlaethol safonol".

Enillodd wobr Adeilad y Flwyddyn RSAW (Royal Society of Architects in Wales) ym mis Mai.

Ffynhonnell y llun, Andrew Lee

Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru ymlaen eleni rhwng 27 Hydref a 4 Tachwedd ac mae'n cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd arbennig, dolen allanol yn y gobaith o ddenu mwy o ymwelwyr i amgueddfeydd ar draws Cymru.

Y nod, medd llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, Victoria Rogers yw "ysbrydoli ymwelwyr i ddysgu mwy am rai o'r straeon treftadaeth a chelfyddydau anhygoel sydd ar garreg eu drws drwy amrywiaeth o brofiadau gwahanol".

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei fod yn gobeithio y bydd "yn helpu i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl i ddysgu mwy am ein hanes diddorol".

Ffynhonnell y llun, Andrew Lee