Theatr y Werin i ailagor ar ei newydd wedd

  • Cyhoeddwyd
Theatr y Werin

Mae un o theatrau amlycaf Cymru wedi ailagor ei drysau ar ôl bod ar gau am chwe mis.

Cafodd drysau Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, eu cau ym mis Ebrill er mwyn cyflwyno offer newydd gefn llwyfan a gwella moethusrwydd i'r gynulleidfa.

Dyma'r newid mwyaf i'r theatr, sy'n gallu dal 300 o bobl, ers iddi agor yn 1972.

"O ran profiad y gynulleidfa fyddan nhw'n cerdded mewn i theatr fydd wedi ei hail-beintio ac mae 'na seddi newydd ysblennydd yma, felly fydd y profiad i'r gynulleidfa yn fwy cyfforddus," meddai cyfarwyddwr y Ganolfan, Dafydd Rhys.

"Ond y gwaith pwysica' ni wedi neud ydy bo ni wedi ail-drydanu yr holl adeilad.

"Ni wedi dod â safon dechnegol y theatr i fyny gyda'r gorau welwch chi yn unrhyw le, ac felly bydd y profiad i'r cwmnïoedd rheiny sydd yn dod o bell ac agos yn dipyn gwell.

"Bydd ansawdd y goleuo yn well, bydd ansawdd y sain yn well, ac felly bydd y profiad i bawb, boed yn deithwyr neu gynulleidfa, yn gyfan gwbl well."

Prifysgol Aberystwyth sydd wedi ariannu'r cyfarpar sain, y goleuadau, y seddi a'r carpedi, ar gost o £750,000.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Rhys ydy Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Bu'n rhaid cau'r theatr am chwe mis er mwyn cyflawni'r gwaith.

"O'dd angen neud y gwaith ers rhai blynyddoedd, ac mae'r Brifysgol wedi bod yn gefnogol iawn i ni'n ariannu'r prosiect y tro yma - o'dd e ddim cweit yn cyrraedd top y rhestr yn y blynyddoedd sydd wedi bod.

"Ond 'y ni wedi llwyddo i gael y gefnogaeth yna gan y Brifysgol. Felly o'dd e'n rhywbeth o'dd rhaid digwydd," meddai.

"Mae'r adeiladau ma' wedi bod yma ers y 70au cynnar ac falle ddim wedi cael cweit digon o gynnal a chadw dros y blynyddoedd, ond o'dd hi'n amser i ni ddod â pob dim i fyny at safonau'r byd presennol."

'Safonau uchel iawn'

Fis Awst 2017 roedd Theatr y Werin yn gartref i'r sioe deithiol 'Flashdance' gydag enillydd Strictly Come Dancing 2016, Joanne Clifton.

Eleni nid oedd modd i'r Ganolfan gynnal sioe deithiol, fel sydd yn arferol yn ystod gwyliau'r haf, am fod y theatr ar gau.

"Nid ar chwarae bach mae rhywun yn cau theatr ac nid ar chwarae bach nethon ni'r penderfyniad yna i gau dros yr haf," meddai Mr Rhys.

"Yn draddodiadol mae'r theatr wedi bod yn rhoi dramâu poblogaidd ymlaen i ddenu nid yn unig pobl Aberystwyth ond hefyd pobl sydd yn dod yma ar wyliau, ac mi o'dd hwnna'n golled.

"Mi wnaethom roi pabell tu allan a rhoi ambell i ddigwyddiad syrcas neu ambell i ddigwyddiad cerddorol, ond 'y ni yn gobeithio nawr gyda'r theatr ar ei newydd wedd, gyda'r safonau uchel iawn yma'n dechnegol bydd ddim problemau i ddenu'r cwmnïoedd gorau i ddod nôl 'ma."