Cymraes yn colli ei chartref a dros $170,000 drwy dwyll

  • Cyhoeddwyd

Mae Catrin Brace wedi bod yn byw a gweithio'n y diwydiant marchnata yn yr Unol Daleithiau ers dros 20 mlynedd.

Yn ddiweddar, wnaeth Catrin drosglwyddo dros $170,000 o'i banc hi yn yr Unol Daleithiau i fanc y person oedd hi'n prynu tŷ newydd oddi wrthyn nhw. Ond yn ddiarwybod iddi hi, roedd hacwyr wedi ymyrryd yn ei e-byst ac wedi anfon manylion banc ffug ati.

Mae Catrin felly nid yn unig wedi colli'r arian, ond oherwydd taw'r arian o werthu ei chartref presennol oedd, mae wedi colli ei chartref hefyd.

Yma mae'n adrodd ei stori ac yn amlinellu'r gwersi pwysig (a drud) mae hi wedi'u dysgu.

Disgrifiad o’r llun,

Catrin gyda'i wyres fach

Beth yw dy gefndir?

Cefais i fy ngeni yn Aberystwyth a fy magu ym Mro Morgannwg. Rwyf wedi bod yn gweithio yn Efrog Newydd, fel Pennaeth Marchnata Llywodraeth Cymru dros Ogledd America, tan llynedd.

Erbyn hyn rwy'n gweithio yn llawrydd ac yn rhannu fy amser rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau. Mae gen i dad sydd yn 95 yng Nghymru a merch sydd ag wyres tri mis oed sy'n byw yn Wayne, Pennsylvania.

Pam symud cymaint o arian?

Gwerthais i fy fflat yn Jersey City ym mis Mehefin ac roeddwn i ar fin prynu tŷ newydd yn Ardmore, Pennsylvania ym mis Medi, i fod yn agos i fy merch a'i helpu gyda'r babi newydd.

Y rheswm am drosglwyddo swm sylweddol o arian oedd i dalu am y tŷ. Doedd y cwmni Yswiriant Teitl, [y cwmni a oedd yn trafod yr arian ar ran y gwerthiant], ddim yn fodlon derbyn siec oddi wrthyf.

Ychydig cyn yr amser i drosglwyddo'r arian atynt, roedd rhaid i mi ddychwelyd i Gymru i weld fy nhad. Tasg weddol anodd, felly, oedd anfon arian o fy manc yn Efrog Newydd i'w banc nhw yn Pennsylvania, ar gyfrifiadur yn Southerndown, Bro Morgannwg.

Oes rhywbeth fel hyn wedi digwydd i ti o'r blaen?

Does dim byd tebyg i hyn wedi digwydd i mi o'r blaen.

Rwy'n gwneud bron popeth ar-lein erbyn hyn ac rwy'n cadw fy nghyfrifiadur yn glir o firws, dydw i ddim yn clicio ar e-byst yn gofyn am arian, rwy'n ofalus iawn wrth brynu pethau ar-lein, ac rwy'n anwybyddu galwadau ffôn ffug yn honni dod o gwmnïau megis Microsoft a BT.

Ond mae'n amlwg nad ydw i'n ddigon savvy!

Sut gafodd y lladron dy e-bost?

Dydw i ddim yn gwybod.

Ond roeddynt wedi e-bostio cyfarwyddiadau ataf am symud yr arian gan ddefnyddio enw, cyfeiriad, a logo'r cwmni yswiriant go iawn. Maen nhw'n glyfar iawn.

Mwy gan Cylchgrawn

Faint wyt ti wedi'i golli?

Gan i mi ddarganfod y twyll yn weddol gyflym a'i reportio i'm banc yn Efrog Newydd yn syth, cefais i chwarter yr arian yn ôl.

Ond rwyf wedi colli swm o arian chwe ffigwr a dyw fy manc i na'r banc lle gafodd yr arian ei drosglwyddo iddo yn fodlon trafod y peth gyda fi ymhellach.

Oes gobaith hawlio mwy o arian yn ôl?

Trwy garedigrwydd ffrindiau sydd wedi cyfrannu tuag at fy nhudalen 'Gofundme', mae gen i dwrne erbyn hyn sydd yn edrych i mewn i gael iawndal i mi.

Wyt ti wedi dysgu unrhyw wersi?

Mae gen i neges i bawb - peidiwch byth â derbyn manylion cyfrif banc unrhyw un drwy e-bost heb checio'r manylion ar y ffôn gyda'r person ei hun.

Mewn byd perffaith ddylech chi ddod i nabod y person chi'n trosglwyddo arian iddyn nhw, a sicrhau bod chi'n ffonio nhw ar rif chi'n gwybod sydd yn gywir a diogel.

Gwers arall rwy' wedi dysgu yw peidio â gadael eich cyfrifiadur ymlaen drwy'r dydd... mae'n debyg fod hyn yn ei wneud yn fwy agored i ymosodiad spyware.

Hefyd, mae'n bwysig i bawb sicrhau fod dulliau atal spyware a rhaglenni gwrth-firws eich cyfrifiadur yn gyfredol, a gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu diweddaru'n gyson.

Ers fy ngholled, rwyf wedi newid a chryfhau fy nghyfrineiriau i bob un o fy safleoedd ar-lein. Rwyf hefyd wedi rhewi fy adroddiadau credyd sydd yn golygu nad yw lladron yn gallu agor cyfrif yn fy enw.