Cyfle i weld eitemau prin wrth agor amgueddfa ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfle i weld oen dau ben a gweddillion eliffant wrth i amgueddfa sydd fel arfer ar gau i'r cyhoedd agor ei drysau.
Fe fydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell ym Mangor yn agor ei drysau yn ystod yr wythnos fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.
Mae'r sbesimenau'n cynnwys oen dau ben, adar o Seland Newydd gan gynnwys yr aderyn prin Kakapo, ac esgyrn eliffant fu farw ym Mangor a phydru ym Mharc y Coleg.
'Hynafiaethau Cymreig'
Dywedodd Swyddog Casgliadau Amgueddfaol Prifysgol Bangor a Storiel, Helen Gwerful, bod y casgliad wedi dechrau "pan sefydlwyd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ym 1884".
"Sefydlwyd yr amgueddfa fel datblygiad naturiol ar gyfer anghenion addysgiadol y brifysgol, ac roedd yn tanlinellu rhan y brifysgol yn y gymuned fel addysgwyr a hyrwyddwyr gweithgareddau diwylliannol.
"Yn wreiddiol roedd yr amgueddfa yn cynnwys sawl casgliad gwahanol gan gynnwys sŵoleg, daeareg a chemeg, yn ogystal ag archaeoleg a hynafiaethau Cymreig."
Dros y blynyddoedd mae'r casgliadau wedi datblygu gan fod llawer o unigolion wedi casglu ac yna rhoi'r sbesimenau i'r brifysgol.
Rhoddwyd rhai gan academyddion fel yr Athro Brambell, a gan deulu stad Y Faenol.
Roedd hefyd yn arferiad i gyfnewid sbesimenau gydag amgueddfeydd eraill.
I'w gweld yn yr amgueddfa mae:
Cas o adar o Seland Newydd gan gynnwys y kakapo wedi cael ei roi gan H.R. Davies ym 1922. Roedd H. R. Davies wedi dod â'r casgliad adref gydag o yn 1885.
Cath wyllt oedd yn rhodd i'r amgueddfa yn 1926 gan David Davies, y Barwn Davies 1af ac AS. Cafodd ei saethu gan y rhoddwr ar ei ystâd yn Yr Alban.
Oen dau ben fu farw yn 1955 ar fferm Tyddyn Du, Gerlan, Bethesda. Roedd yn dioddef o gyflwr policeffali, sef o fod â mwy nag un pen.
Ysgithr morfil ungorn - dant llygad chwith y morfil ungorn sy'n cael ei ddefnyddio i ganfod newidiadau yn nhymheredd y môr, lefelau heli a chemegau.
Cyrn elc o Iwerddon, y ceirw mwyaf a fu erioed. Bu farw'r elc Gwyddelig olaf bron 8,000 o flynyddoedd yn ôl.
Crwban y Galapagos, y rhywogaeth wnaeth ysbrydoli Charles Darwin i ddatblygu damcaniaeth am esblygiad.
Eliffant ddaeth i'r amgueddfa pan ymwelodd y syrcas deithiol â Bangor. Gadawyd corff yr eliffant i bydru ym Mharc y Coleg tan oedd ei esgyrn yn lân ac yn sych.
Wrth drafod Gŵyl Amgueddfeydd Cymru, dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas, bod Cymru'n "hynod o ffodus... i gael y fath gyfoeth o amgueddfeydd sy'n llawn eitemau hynod o ddiddorol".
"Rwy'n gweld yr ŵyl fel cyfle pwysig i amgueddfeydd gysylltu â'u cymunedau lleol a helpu pobl i ymdrochi yn eu diwylliant a'u treftadaeth," meddai.
"Gobeithio y bydd hyn yn helpu ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl i ddysgu mwy am ein hanes diddorol."
Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod agored ar 3 Tachwedd rhwng 11:00-15:00 fel rhan o'r ŵyl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2018