Russell Bentley yn ennill Marathon Eryri unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
russell bentley
Disgrifiad o’r llun,

Russell Bentley (canol) oedd enillydd y ras eleni

Fe wnaeth bron i 3,000 o redwyr gymryd rhan ym Marathon Eryri ddydd Sadwrn.

Roedd y ras flynyddol wedi gwerthu allan o fewn ychydig oriau i'r dudalen gofrestru fynd yn fyw ar-lein ym mis Rhagfyr y llynedd.

Russell Bentley - yr enillydd yn 2016 - oedd yn fuddugol eto eleni gan orffen mewn dwy awr a 38 munud, gyda'r Cymry Martin Green a Robert Weekes yn ail a thrydydd.

Anna Bracegirdle o Gymru oedd y ddynes gyflymaf i orffen y ras, gydag Emma Wookey yn ail ac Andrea Rowlands yn drydydd.

Ifan Jones oedd y cyntaf o'r rhedwyr lleol i groesi'r llinell derfyn, o flaen Llyr ap Gruffydd a Richard Jones.

£1m i elusen

Mae Marathon Eryri yn cael ei hystyried yn ras hardd a heriol, gyda'r tir yn codi i bron 3000tr (910m) uwchben lefel y môr.

Fe gafodd ei chynnal gyntaf yn 1982 - gyda 600 o redwyr yn cystadlu.

Mae'r ras yn cychwyn wrth droed Yr Wyddfa yn Llanberis ac yn arwain rhedwyr i fyny Pen-y-Pas tuag at Feddgelert, ymlaen at Waunfawr cyn troi'n ôl i orffen yn Llanberis.

Mae disgwyl i'r rhedwyr gasglu £1m ar gyfer elusennau.