Llofruddiaeth Pentywyn: Heddlu yn arestio dyn fu ar ffo
- Cyhoeddwyd
![Steve Baxter](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/773E/production/_104062503_853645db-dce8-41ab-ac4f-234c6e1e3e59.jpg)
Mae Steve Baxter wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth
Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud eu bod wedi dod o hyd i ddyn sy'n cael ei amau o lofruddiaeth.
Roedd yr heddlu yn chwilio am Steve Baxter mewn cysylltiad â marwolaeth Simon Clark mewn parc carafanau ym Mhentywyn, Sir Gâr ar 28 Medi.
Cafodd Mr Baxter, 52, ei arestio ddydd Sadwrn yn Sir Gaerfyrddin, ac mae'n parhau i fod yn y ddalfa.
Mae pedwar person eisoes wedi cael eu cyhuddo fel rhan o'r ymchwiliad i'r llofruddiaeth.
![Simon Peter Clark](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13B0C/production/_103625608_pendine-simonpeterclark.jpg)
Roedd Simon Clark yn byw ym Mhentywyn
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Jones: "Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth wrth i ni ddod o hyd i Baxter.
"Rydw i'n falch ei fod bellach yn y ddalfa a bod y chwilio ar ben. Rydym yn parhau i gydymdeimlo gyda theulu Simon Clark."
Mae Jeffrey Ward, 40 o Bentywyn, eisoes wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Mr Clark.
Mae tri pherson arall wedi eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr i lofruddio - Linda Rowley, 52 o Bentywyn, Kirston Macklin, 52 o Gasnewydd, a Julie Harris, 46 o Donypandy.