A fydd Cymru yn elwa o gyllideb Canghellor y Trysorlys?
- Cyhoeddwyd
Gallai Llywodraeth Cymru gael mwy o arian o ganlyniad i'r cynlluniau gwariant fydd yn cael eu nodi yng nghyllideb y Canghellor ddydd Llun.
Mae disgwyl i Phillip Hammond gyhoeddi £25.5bn i Briffyrdd Lloegr er mwyn uwchraddio ffyrdd rhwng 2020 a 2025 - cynlluniau fydd yn cael eu hariannu yn bennaf gan y dreth ar geir.
Bydd gwariant cyfatebol yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru, ond mae Trysorlys San Steffan yn gwrthod â chadarnhau union swm yr arian nes bydd y gyllideb yn cael ei thraddodi am 15:30.
Pan mae arian yn cael ei wario ar drafnidiaeth yn Lloegr mae fformiwla gyllido arbennig yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru hefyd yn derbyn arian.
Os yw Llywodraeth y DU yn cyllido'r cynlluniau drwy roi llai o arian i feysydd eraill, fydd 'na ddim mwy o arian i goffrau Llywodraeth Cymru.
Mae'r Trysorlys wedi gwrthod â dweud wrth BBC Cymru a fydd arian newydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cynlluniau.
Fe allai'r Canghellor Hammond hefyd sicrhau hwb i fusnesau'r stryd fawr yn Lloegr.
Ddydd Sadwrn roedd adroddiadau y bydd y gyllideb yn sicrhau £1.5bn o ryddhad ardrethi busnes, cynlluniau i adfywio'r stryd fawr a chysylltiadau trafnidiaeth yn Lloegr.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns y dylai Llywodraeth Cymru hefyd sicrhau hwb ariannol i fusnesau'r stryd fawr yng Nghymru.
Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut y byddant yn gwario unrhyw arian ychwanegol.
'Degawd o gwtogi'
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud mai cynghorau Cymru fydd y cyntaf i elwa os yw Cymru'n cael mwy o arian yn y gyllideb ddydd Llun.
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford y dylai cynnydd fod mewn gwariant cyhoeddus: "Ry'n ni'n gyson wedi galw ar i bolisi llymder llywodraeth San Steffan ddod i ben gan ei fod yn fethiant.
"Tra mod i'n rhoi croeso gofalus i sylwadau diweddar y Prif Weinidog Theresa May fod llymder yn dod i ben, dwi'n edrych ymlaen i weld sut bydd hynny'n digwydd yn ymarferol.
"Mae'n bryd i Lywodraeth y DU gynyddu gwariant cyhoeddus er mwyn cwrdd â gofynion cynyddol gwasanaethau cyhoeddus a gwneud iawn am y difrod sydd wedi cael ei wneud gan ddegawd o gwtogiadau."
Dywedodd Mr Drakeford ei fod hefyd am i Lywodraeth Cymru fedru cael benthyg mwy o arian ar gyfer prosiectau adeiladu.
"Mae 'na bwysau mawr o hyd ar yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn isadeiledd," meddai.
"Ry'n ni eisoes yn defnyddio ein galluoedd benthyg i'r eithaf ond er mwyn parhau i weithredu ein blaenoriaethau gwariant mae'n rhaid i ni gael mwy o arian."
Ar hyn o bryd ffordd liniaru'r M4 yw'r prif gynllun sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, gyda Metro De Cymru yn ail.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd19 Medi 2018