Credyd Cynhwysol: Sefyllfa tenantiaid yn waeth
- Cyhoeddwyd
Mae tenantiaid cyngor sy'n derbyn credyd cynhwysol ar gyfartaledd ar ei hôl hi dros ddwywaith cymaint wrth dalu rhent, na phobl sy'n dal i dderbyn budd-dal tai, yn ôl gwaith ymchwil gan y BBC.
Yn Sir y Fflint, un o'r siroedd cyntaf i gyflwyno'r taliad newydd, mae tenantiaid ar gyfartaledd tair gwaith ar ei hôl hi gyda'u rhent.
Dywedodd un person sy'n hawlio'r credyd fod camgymeriad yn ei achos wedi golygu mai dim ond £29 y mis oedd ar ôl ganddo i fyw arno.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi gwrando ar bryderon, a bod y credyd cynhwysol yn gweithio'n dda.
Sefyllfa'r siroedd
Cysylltodd y BBC gyda phob awdurdod lleol drwy'r DU sydd â thai cyngor i ofyn am ôl-daliadau.
O'r 129 cyngor a ymatebodd, dangosodd canlyniadau fod tenantiaid sy'n gorfod hawlio credyd cynhwysol, ar gyfartaledd, ar ei hôl hi o £662.56 gyda'u taliadau.
£262.50 yw'r cyfartaledd i rai sy'n dal ar fudd-dal tai.
Dangosodd adroddiad gan Gyngor Sir y Fflint fod y rheiny sydd ar gredyd cynhwysol ar ei hôl hi o £1,473, tra bo tenantiaid sy'n dal ar yr hen fudd-daliadau ar ei hôl hi o £334.
Mae'r credyd cynhwysol, gafodd gefnogaeth amlbleidiol pan gafodd ei gynnig yn wreiddiol, yn uno chwe budd-dal, fel budd-dal tai a chredyd treth plant.
Yn debyg i ennill cyflog, mae'r credyd yn cael ei dalu unwaith y mis, am y mis blaenorol.
Tra bo'r system wedi gweithio i rai, mae eraill yn dweud mai'r oedi hwn yn y taliad, yn unol â dryswch yn ymwneud â'r broses ymgeisio ar-lein, sydd wedi arwain at deuluoedd yn byw heb incwm am rai wythnosau, gan eu gorfodi i droi at fanciau bwyd a dewis rhwng talu biliau neu rhent.
Cafodd y credyd cynhwysol ei gyflwyno i ganolfannau gwaith yn Sir y Fflint ym mis Ebrill 2017, sy'n golygu fod yr awdurdod ar y blaen i lawer o ardaloedd eraill.
Ddeunaw mis yn ddiweddarach, mae 23% o hawlwyr budd-dal y sir ar gredyd cynhwysol, o'i gymharu â 10% drwy'r DU.
Un sydd wedi wynebu dryswch y credyd cynhwysol yw James McDaid, sy'n dad sengl.
Fe roddodd orau i'w waith i ofalu am ei fab blwydd oed, a mynd i drafferthion yn syth gyda'i gais cyntaf.
Derbyniodd £579 y mis, gyda £550 yn mynd yn syth at dalu'r rhent, cyn gallu prynu bwyd a thalu biliau eraill.
Wedi iddo fethu a darganfod pam fod ei daliad mor isel, cafodd ei orfodi i droi at fanc bwyd, a bu'n rhaid iddo aros misoedd cyn i'w gais gael ei brosesu.
"Petai dim llefydd fel hyn [banciau bwyd] i'w cael, fe fyddech chi mewn trafferth," dywedodd.
"Dydy cael cymaint â hynny o straen ddim yn deg. Mae'n llanast pan nad ydych chi'n gwybod a ydych chi'n mynd i gael eich troi allan i'r stryd ai peidio."
Penbleth i'r cyngor
Mae Neal Cockerton, pennaeth tai Cyngor Sir y Fflint, yn wynebu gorfod troi tenantiaid sy'n methu â thalu'r rhent allan o'u cartrefi, tra ar yr un pryd, weld y bwlch yng nghyllid y cyngor yn tyfu.
Yn 2017, roedd yr awdurdod yn wynebu cyfanswm o £1.6m mewn ôl-daliadau. Mae'r ffigwr bellach wedi codi i £2m.
"Mae pwynt yn dod pan fo'n rhaid i chi wneud y penderfyniad i'w taflu allan," meddai Mr Cockerton.
"Rydyn ni'n cynnig cefnogaeth ddwys cyn ein bod ni'n cyrraedd y pwynt yna, ond mae 'na elfen anochel i'r peth.
"Gallwch chi roi'ch pen yn y tywod iddo fynd i ffwrdd. Fydd o ddim yn mynd i ffwrdd, mae'n rhaid talu'r rhent."
Gan fod y credyd cynhwysol yn cael ei hawlio ar-lein, sy'n heriol i rai heb sgiliau cyfrifiadurol, mae'n rhaid i'r cyngor hefyd gyflogi staff newydd i gynorthwyo'r gwaith o wneud cais ac ôl-daliadau, sy'n gost ar adeg pan fo'r esgid yn gwasgu ar gyllidebau.
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi mwy o nawdd iddyn nhw i fynd i'r afael â hyn, ond mae'r cyngor yn dweud nad yw'n ddigon, ac y bydd yn dod i ben yn 2019.
Credyd cynhwysol 'yn gweithio'n dda'
Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu oedi cyn trosglwyddo mwyafrif yr hawlwyr budd-dal i'r credyd cynhwysol am flwyddyn arall, yn ogystal â chyhoeddi y bydd rhagor o gyllid ar gael i wella'r system.
Dywedodd y gweinidog cyflogaeth Alok Sharma fod y budd-dal newydd yn gweithio'n dda, gan fynnu mai dros dro'n unig y bydd problemau gydag ôl-daliadau.
"Rydyn ni wedi gweld system symlach, system y mae pobl yn ei deall sydd yn y pendraw yn golygu y byddan nhw'n dod o hyd i waith yn gynt ac yn aros mewn gwaith yn hirach.
"Dros gyfnod o amser, bydd pobl yn gweld yr ôl-daliadau [rhent] yn dod i lawr."
Gellir gweld y stori'n llawn ar raglen Panorama'r BBC The Universal Credit Crisis nos Lun am 19:30 a Wales Investigates, BBC One Cymru am 21:30.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2018