'Gwawdio' acen AS Plaid Cymru yn San Steffan
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi ei "siomi" gan adroddiadau fod ei acen wedi cael ei wawdio yn San Steffan.
Fe wnaeth Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, godi'r mater gyda llefarydd Tŷ'r Cyffredin prynhawn ddydd Mawrth.
Daeth y sylwadau yn dilyn negeseuon gan Laura Smith, AS Crewe a Nantwich, ar wefan cymdeithasol, lle nodai ei bod hi wedi bod yn dyst i "ASau Ceidwadol yn gwneud hwyl ar ben acen AS Cymreig".
Dywedodd Mr Edwards fod hyn yn "nodweddiadol o ddiwylliant y Senedd yn anffodus".
Cafodd acenion eu hamlygu yn y Senedd ym mis Hydref yn dilyn ffrae rhwng yr AS Ceidwadol o Seland Newydd, Syr Paul Beresford, a David Linden o'r SNP.
Nid oedd Mr Beresford yn gallu deall cwestiynau Mr Linden, ac ar ôl dwy ymgais a chais i siarad yn arafach roedd rhaid i'r is-lefarydd Syr Lindsay Hoyle ymyrryd.
'Tanseilio hunaniaeth'
Dywedodd Mr Edwards ar raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru nad oedd wedi clywed dim ar y pryd ond bod y sylwadau ddim yn syndod iddo.
"O'n i wedi ymyrryd ar y gweinidog a gwneud pwynt am fethiannau economaidd y llywodraeth, ac yn ôl y sôn roedd ryw ddynwared neu wneud sbort o fy acen o feinciau'r llywodraeth," meddai.
"Ges i ddim ffeindio mas am y peth tan nifer o oriau ar ôl hynny... daeth aelodau o'r Blaid Lafur ataf fi i ddweud beth oedden nhw wedi clywed."
Ychwanegodd: "Mae'n fater gymharol ddifrifol, drwy wneud sbort ar acen rhywun chi'n ceisio tanseilio eu hunaniaeth nhw."
'Annerbyniol'
Fe gododd Mr Edwards bwynt o drefn gyda'r llefarydd, John Bercow, yn y siambr er mwyn dyfarnu os oedd hyn yn dderbyniol o ran y safonau y mae'n ei ddisgwyl yn Nhŷ'r Cyffredin.
Wrth ymateb, dywedodd Mr Bercow fod ymddygiad o'r fath yn gwbl "annerbyniol" ac yn "fath o fwlio".
Ychwanegodd fod cwynion Mr Edwards yn hollol gywir, a'i fod yn gobeithio na fydd rhaid iddo godi'r mater eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018